Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut y gymryd rhan - Y Trallwng

Gellir lawrlwytho copi drafft o'r Gorchymyn, cynlluniau perthnasol a datganiad am resymau'r Cyngor dros wneud cais am y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW BERSON gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill i'r Gorchymyn arfaethedig erbyn 14 Awst 2022, a hynny'n ysgrifenedig, gan ddatgan cyfiawnhad a sail dros y gwrthwynebiad.  

Nodwch: Pe byddech am wrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, caiff eich gohebiaeth ei hystyried gan dîm y prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill mae'n bosibl y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddyn nhw, gan gynnwys gwybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond ble y bo'n angenrheidiol gwneud hynny y byddwn yn datgelu eich manylion personol i'n galluogi ni i ddelio â'r materion yr ydych chi wedi tynnu ein sylw atynt.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch

Adran Draffig

Neuadd y Sir Powys

Llandrindod

Powys

LD1 5LG