Sialens Ddarllen yr Haf - Teclynwyr
07 Gorfennaf 2022
Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi ymuno â'r Grwp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth i greu sialens sy'n ymwneud â gwyddoniaeth ac arloesi.
I gymryd rhan:
- Galw yn y llyfrgell leol: Cofrestra i fod yn rhan o'r sialens a cher ati i ddewis chwe llyfr o'r holl ddewis sydd ar gael
- Cofrestra ar-lein ar gyfer y sialens ddigidol: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/
Dewisa chwe llyfr rwyt ti am eu darllen. Gall rhain fod yn lyfrau sydd gen ti adref neu'n e-lyfrau / e-lyfrau llafar o safle Borrowbox Llyfrgelloedd Powys. https://powys.borrowbox.com
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i gadw plant i ddarllen dros wyliau'r haf tra hefyd yn magu hyder a sgiliau cyn y flwyddyn ysgol newydd.
"Mae'r thema eleni'n canolbwyntio ar ysbrydoli plant i weld y gwyddoniaeth a'r arloesi tu ôl i wrthrychau bob dydd, gan ddangos fod darllen a gwyddoniaeth i bawb ac yn gallu bod yn hwyl."
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn benodol i blant rhwng 4 ac 11 oed a bydd yn dechrau ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf tan canol Medi.
Mae Llyfrgelloedd Powys yn llawn amrywiaeth o lyfrau ar gyfer y sialens, yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys llyfrau lluniau, storiau sydyn, llyfrau stori, llyfrau gwybodaeth a chomics.
Ar ôl cofrestru ar y sialens, bydd pob plentyn yn derbyn ffolder casglwr am ddim ac yna'n mynd ati i ddarllen unrhyw lyfrau i gasglu sticeri arbennig ar y ffordd.
Bydd pawb sy'n cwblhau'r sialens ddarllen erbyn diwedd yr haf yn derbyn tystysgrif a medal, tocyn nofio am ddim i'r teulu diolch i Freedom Leisure, a bydd cyfle i ennill rhai gwobrau gwych.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.facebook.com/buddingreaders neu cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgelloedd ar library@powys.gov.uk neu 01874 612394.