Toglo gwelededd dewislen symudol

Pennaeth Gwasanaeth yn gadael

Image of Jan Coles

8 Gorffennaf 2022

Image of Jan Coles
Mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd Pennaeth Gwasanaeth gyda Chyngor Sir Powys yn gadael yr awdurdod ar gyfer swydd newydd yng Ngorllewin Cymru.

Bydd Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant yn gadael y cyngor i gymryd rôl debyg gyda Chyngor Sir Gâr ddiwedd yr haf hwn.

Ymunodd Jan â Chyngor Sir Powys ym mis Hydref 2018 ac aeth ati i arwain y siwrnai gwella ar gyfer y gwasanaeth yn dilyn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru y flwyddyn flaenorol.   Roedd y gwelliannau'n canolbwyntio ar wasanaethau Cymorth Cynnar i deuluoedd, dull yn seiliedig ar gryfderau a hawliau plant.

Defnyddiodd Jan ei phrofiad o'i rôl flaenorol fel Rheolwr Gweithredol gyda Chyngor Caerdydd, lle'r oedd yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

Dywedodd Dr Caroline, Prif Weithredwr: "Dymunwn yn dda i Jan ar gyfer y dyfodol, mae ganddi gyfoeth o brofiad o fod wedi gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Gwasanaethau Plant am yr 20 mlynedd diwethaf a bydd ei chydweithwyr yn ei cholli."