Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gallwch ailgylchu eich cartonau bwyd a diodydd o gartref erbyn hyn

Image of a child drinking juice from a carton

11 Gorffennaf 2022

Image of a child drinking juice from a carton
Gellir ailgylchu cartonau, a gyfeirir atynt yn aml fel cynhwysyddion TetraPak, trwy eich casgliadau ailgylchu wythnosol erbyn hyn gan eu hychwanegu at eich blwch ailgylchu coch.

"Er iddi fod yn bosibl i ailgylchu cartonau bwyd a diodydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref ers eto, rydym yn gwybod nad yw hi'n ymarferol bob tro i bawb ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer yr eitemau pob dydd hyn." Esboniodd y Cyng. Jackie Charlton, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Yn dilyn eich ceisiadau ac adborth, rydym wedi bod yn gweithio'n ddiwyd y tu ôl i'r llên i geisio canfod ffordd ymarferol o gynnwys y cartonau hyn o fewn y casgliadau ailgychu wythnosol ac rydym wrth ein boddau erbyn hyn i allu eu hychwanegu hwy at y rhestr o eitemau y gellir eu hailgylchu nawr yn eich blwch coch."

Y mathau o gartonau y gallwn eu derbyn erbyn hyn yn y blychau ailgylchu coch o fin y ffordd yw cartonau diodydd megis suddion, smwddis a llaeth, a chartonau bwyd, megis cawl, tomatos a ffacbys. Y cyfan sydd angen ei wneud yw eu golchi'n sydyn, eu gwasgu, ac yna eu hychwanegu at eich blwch ailgylchu coch.

Wedi casglu a dosbarthu eich deunyddiau ailgylchu i orsaf drosglwyddo gwastraff y sir, mae'r cartonau'n cael eu gwahanu o'r deunyddiau plastig ac yn cael eu crynhoi mewn byrnau gyda'i gilydd. Mae'r byrnau hyn yn cael eu casglu wedi hynny gan Gynghrair Cartonau Diod a'r Amgylchedd (ACE) y DU, sy'n eu prosesu yn eu cyfleuster ailbrosesu penodedig.

Dyma ddywedodd Richard Hands, Prif Weithredwr ACE UK yn dilyn penderfyniad y Cyngor: "Mae'n newyddion gwych fod Cyngor Sir Powys wedi penderfynu anfon y cartonau a gesglir i'n safle ailgylchu penodol ni. Yn ogystal â chael ôl-troed carbon isel, mae'n bosibl ailgylchu'r ffibrau pren o ansawdd uchel a geir mewn cartonau bwyd a diod, hyd at chwe gwaith, gan eu gwneud yn ddeunydd crai gwerthfawr ar gyfer cynnyrch papur newydd."

Ychwanegodd y Cyng. Charlton: "Mae aelwydydd Powys eisoes wedi profi eu hunain i fod yn ailgylchwyr ymroddedig, ac rydym yn gwybod eich bod yn awyddus i ni ddatblygu ffyrdd o helpu cynyddu cyfleoedd ailgylchu lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Bydd cyflwyno cartonau i'r blwch coch yn ein helpu ni i gynnal momentwm ailgylchu'r sir er mwyn diwallu targed nesaf Llywodraeth Cymru i ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio 70% o'n gwastraff erbyn 2025." 

Fel gair i'ch atgoffa, gallwn gasglu'r canlynol o fewn y blychau coch nawr:

  • Poteli, potiau, tybiau a chynhwysyddion plastig glân a gwag
  • Tuniau, caniau, erosolau cegin ac ystafell ymolchi, caeadau ffoil a metel glân a gwag
  • Cartonau bwyd a diodydd glân a gwa