Sioe Frenhinol Cymru 2022
11 Gorffennaf 2022
Bydd gan y Cyngor amrywiaeth o wybodaeth a stondinau dros bedwar diwrnod y sioe (18-21 Gorffennaf) yn Llanelwedd.
Bydd cyfle i ymwelwyr wybod mwy am ddod yn ofalwr maeth, cefnogi'r agenda hinsawdd gyda chyngor a gwybodaeth ar ailgylchu, codi gwybodaeth i dwristiaid a chlywed am gynlluniau cyffrous i'r ardal gyda Thwf Canolbarth Cymru.
Bydd y Cyngor hefyd yn dangos cefnogaeth i'r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn ogystal â gwybodaeth am gefnogi plant sy'n agored i niwed yn y sir.
Bydd sefydliadau partner hefyd yn bresennol gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Glandŵr Cymru, Severn Valley Wye Energy a PACE.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae'n braf cael bod nôl yn y Sioe ac rydym yn estyn croeso cynnes i bawb fydd yno."
Bydd stondin Cyngor Sir Powys yn Nhŵr Brycheiniog ar Rodfa E, ger y prif gylch.