Toglo gwelededd dewislen symudol

Haf o hwyl i blant Powys

Summer of Fun

13 Gorffennaf 2022

Summer of Fun
Gall plant led led Powys edrych ymlaen at 'Haf o Hwyl' arall, diolch i arian Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc 0-25 oed dros y gwyliau haf.

Bydd gweithgareddau, a gynhelir gan sefydliadau'r trydydd sector yn cael eu cynnal ar draws y sir o'r 7 Gorffennaf hyd at 30 Medi 2022.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Un o flaenoriaethau'r llywodraeth hwn yw cynnig cymorth i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.  Rwy wrth fy modd ein bod yn gallu adeiladu ar lwyddiant Hwyl o Haf y llynedd a'r Gaeaf Llawn Lles trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diwylliannol.  Rwy am sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru'n cael y cyfle i chwarae'n rhydd, i gael profiadau newydd a mwynhau'r haf."

Dywedodd y Cyng. Susan McNicholas Aelodau Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Rydym wrth ein boddau y bydd plant a phobl ifanc ar draws Powys yn cael y cyfle i elwa o'r sesiynau gweithgareddau hyn dros yr haf eleni eto.

Fe fyddem wirioneddol yn annog rhieni i ganfod yr hyn sy'n digwydd yn eu hardal leol, gan y gallai plant a phobl ifanc elwa o weithgareddau difyr megis celf a chrefft, chwaraeon, gweithgareddau yn yr awyr agored, theatr a dawns, a llawer iawn mwy."

I wybod mwy am weithgareddau yn eich ardal edrychwch ar - https://cy.powys.gov.uk/article/12193/Haf-o-Hwyl