Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynnal agoriad swyddogol Ysgol Cwm Banwy

Image of pupils at the official opening at Ysgol Cwm Banwy

14 Gorffennaf 2022

Image of pupils at the official opening at Ysgol Cwm Banwy
Mae dysgwyr, staff a phwysigion wedi dathlu agoriad swyddogol ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Powys - bron ddwy flynedd wedi agor ei drysau am y tro cyntaf.

Cynhaliwyd agoriad swyddogol Ysgol Cwm Banwy yn gynharach y mis hwn (Dydd Mercher, 6 Gorffennaf), a welodd dysgwyr yn perfformio eu sioe 'Deryn' a ysgrifennwyd ac a baratowyd ganddyn nhw. Siaradodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, yn yr agoriad swyddogol hefyd ar ran y cyngor.

Fel rhan o'r agoriad swyddogol, cafodd gardd newydd ar safle'r ysgol ei hagor yn swyddogol. Crëwyd yr ardd er cof am Richard Tudor, cyn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Banw a fu farw'n drasig yn 2020.

Agorwyd yr ysgol Eglwys yng Nghymru cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2020 ond oherwydd y pandemig Coronafeirws, nid oedd yn bosibl cynnal digwyddiad agor tan yn ddiweddar.

Sefydlwyd yr ysgol yn dilyn cau Ysgol Gynradd Gymunedol Banwy ac Ysgol Sefydledig yr Eglwys yng Nghymru Llanerfyl, ac fe'i lleolir ar gyn safle ysgol Banw.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys yn Dysgu: "Rwyf wrth fy modd i fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Ysgol Cwm Banwy. Roedd hi'n bleser arbennig i wylio perfformiad 'Deryn'. Roedd yn sioe ffantastig a dylai'r disgyblion a'r staff fod yn eithriadol o falch o'u hymdrechion.

"Mae'r agoriad swyddogol yn garreg filltir bwysig i unrhyw ysgol newydd, felly roedd hi'n bwysig fod Ysgol Cwm Banwy yn cynnal eu seremoni, a ddaeth â pawb yn y gymuned ysgol ynghyd i ddathlu."