Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyflenwadau dŵr preifat - diweddariad

Image of water running from a tap

14 Gorffennaf 2022

Image of water running from a tap
Wrth i'r tywydd braf a chynnes barhau, dyma atgoffa defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat i gadw llygad ar eu cyflenwadau.

Dylech fonitro lefelau'r dŵr, cadw dŵr lle'n bosibl gan sicrhau y gallwch ddilyn cyngor y llywodraeth i olchi eich dwylo'n rheolaidd ac adolygu eich cynlluniau at argyfwng er mwyn sicrhau cyflenwad arall o ddŵr os bydd angen.

Os nad oes gennych gyflenwad arall, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gynwysyddion dŵr y gallwch eu llenwi (neu fowser) a digon o ddŵr potel ar gyfer yfed, coginio a golchi.

Cofiwch mai'r bobl berthnasol (perchnogion, meddianwyr, landlordiaid a thirfeddianwyr) sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwad.

Dylai perchnogion cyflenwadau dŵr preifat hefyd barhau i gynnal yr archwiliadau arferol gan gynnwys archwilio'r ffynhonnell, y rhwydwaith storio a dosbarthu, gwneud y gwaith cynnal a chadw fel bo'r angen (e.e. newid y lampau UV neu fonitro'r dos clorin) a bod digon o offer hanfodol sbâr wrth law i sicrhau bod y cyflenwadau'n ddihalog bob amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cyngor pellach, cysylltwch â thîm Diogelu'r Amgylchedd dros y ffôn (01597 82600) neu ar e-bost (environmental.protection@powys.gov.uk).

Am ragor o wybodaeth ewch i www.dwi.gov.uk/private-water-supply/index.htm