Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Preswylydd o Dalgarth yn derbyn dirwy o £300 am adael sbwriel mewn safle ailgylchu cymunedol

Image showing black bag waste found in a card recycling bank

15 Gorffennaf 2022

Image showing black bag waste found in a card recycling bank
Nid yn unig y mae cam-drin safleoedd ailgylchu cymunedol y sir yn barhaus yn llygru tunnelli o ddeunyddiau ailgylchu ond mae wedi arwain at un preswylydd di-ofal o Dalgarth yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.

Cyhoeddwyd dirwy o £300 wedi i sachau sbwriel du yn llawn o sbwriel cyffredinol a dillad gael eu canfod o fewn ac o amgylch y banc ailgylchu cerdyn lleol. Yn ystod cyfweliad, honnodd perchennog y gwastraff ei fod wedi talu i rywun fynd â'u gwastraff ymaith. O ganlyniad i hyn, cyhoeddwyd y ddirwy dan Reoliadau Dyletswydd Gofal dros Wastraff o'r Cartref 2019, am fethu â chymryd mesurau rhesymol i sicrhau cludo a gwaredu â'u gwastraff o'r cartref yn ddiogel.

"Rhaid bod talu i rywun fynd â'ch sbwriel ymaith, ac yna canfod eu bod wedi'i adael yn anghyfreithlon yn dorcalonnus" meddai'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Ond yn anffodus, nid allwn daflu'r baich am ein gwastraff. 

"Mae pob un ohonom yn gyfrifol am wastraff ein hunain ac mae gennym ddyletswydd gofal dros wastraff i sicrhau ein bod yn gwaredu ag ef yn gyfrifol. Os byddwn yn talu i rywun fynd â'n gwastraff ymaith i ni, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni wirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Yn syml iawn, gofynnwch i'r unigolyn neu fusnes i ddangos prawf i chi eu bod wedi cofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd i gludo neu dderbyn gwastraff.

"Trwy sicrhau fod ein gwastraff yn cael ei drin a'i drafod yn gywir a ddim ond yn cael ei drosglwyddo i bobl a awdurdodir i'w dderbyn, gallwn ddiogelu'r amgylchedd a sicrhau ein bod yn gwaredu ag ef yn gywir ac yn ddiogel. Nid yn unig y bydd yn cadw ein sir brydferth yn rhydd o sbwriel a gwastraff, ond fe fydd yn golygu na fyddwch yn derbyn dirwy yn y pen draw!"

Am ragor o wybodaeth ar y Rheoliadau Dyletswydd Gofal dros Wastraff o'r Cartref, edrychwch ar https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/waste-management/disposing-of-your-household-waste/?lang=en