Cyngor i gymryd rhan mewn gorymdaith Pride cyntaf Powys
15 Gorffennaf 2022
Mae'r orymdaith, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf, yn ddigwyddiad nodedig i'r gymuned LHDTC+ ym Mhowys.
Bydd hefyd yn ddigwyddiad nodedig i'r cyngor gan y byddant yn cymryd rhan fel aelod o Gyngor Balch.
Partneriaeth wirfoddol o awdurdodau lleol yng Nghymru yw Cynghorau Balch sy'n rhagweithiol o ran cynnwys pobl LHDTC+. Fe'i ffurfiwyd yn 2015 i sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweladwy yn y maes hawliau LHDTC+ ac yn mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ mewn cymunedau ledled Cymru.
Nod y bartneriaeth yw creu dull unedig a chydweithredol o ymdrin â chynhwysiant LHDTC+ ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol sy'n aelodau gyda'u hymrwymiad i greu gweithleoedd a chymunedau cyfartal, amrywiol a chynhwysol, lle gall y gymuned LHDTC+ fod yn rhydd o wahaniaethu neu ragfarn.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn bod Cyngor Sir Powys yn cymryd rhan fel Cyngor Balch yn yr orymdaith Pride cyntaf erioed ym Mhowys y penwythnos hwn.
"Rydym am ddangos i bobl bod y cyngor yn gyflogwr croesawgar a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth ar draws ein gweithlu tra'n cefnogi'r gymuned LHDTC+ ym Mhowys. Mae'n bwysig bod y cyngor yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Powys Pride a bod pobl LHDTC+ yn ein cymunedau yn gwybod eu bod ganddynt gefnogaeth lawn y cyngor."