Toglo gwelededd dewislen symudol

Uchelgais darlledu byw i Bowys

Image of County Hall

15 Gorffennaf 2022

Image of County Hall
Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i ddemocratiaeth agored a thryloyw ac mae'n chwilio am atebion technolegol i ddarlledu mwy o'i gyfarfodydd yn fyw.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Gibson-Watt, fod y cabinet am fod mor hygyrch â phosibl ond bod angen iddo ddod o hyd i atebion a allai gefnogi trafodaeth ddwyieithog yn ogystal â'r holl brosesau democrataidd am gost gynaliadwy.

"Mae gweithio mewn ffordd ddigidol wedi dod â heriau newydd na fyddem wedi'u dychmygu yn y gorffennol.  Mae rhywfaint o'r dechnoleg newydd yn rhoi'r gallu i ni gael dadl ddwyieithog ond nid yw'n gallu darparu cyfleuster ar gyfer pleidleisio tra bod gan eraill lai o hyblygrwydd, ac nid yw hynny'n dderbyniol," meddai'r Cynghorydd Gibson-Watt.

"Er ein bod yn rhagori ar ofynion Llywodraeth Cymru ar ddarlledu cyfarfodydd cyngor yn fyw ar hyn o bryd, gyda darllediadau o'r cyngor llawn a'r cabinet, rydym yn teimlo'n gryf y dylem ymestyn hyn i bob cyfarfod craffu a chynllunio, ond bydd hyn yn golygu cost ychwanegol.

"Penderfynodd y cabinet blaenorol ariannu'r system Zoom sydd wedi cyfyngu ar y darllediadau byw sydd ar gael i ni. Bydd y Cabinet presennol yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i ganiatáu darlledu byw mor eang â phosibl, cyn gynted â phosibl, gan gynnwys cyfarfodydd hybrid sy'n ychwanegu lefel newydd o gymhlethdod.  Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes ateb cyflawn i'r holl ofynion.

"Mae hygyrchedd cyhoeddus yn un o gonglfeini'r Bartneriaeth Flaengar sef y dylai'r cyngor weithredu mewn modd mor agored a thryloyw â phosibl," ychwanegodd.