Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Seremoni torri'r dywarchen yn Ysgol Cedewain

Image of people at turf-cutting ceremony for Ysgol Cedewain

15 Gorffennaf 2022

Image of people at turf-cutting ceremony for Ysgol Cedewain
Cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen i nodi dechrau gwaith adeiladu ysgol newydd sbon i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Cyngor Sir Powys a'i gontractwyr, Wynne Construction, wedi dechrau adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn darparu 75% o gostau'r prosiect o dan ei Rhaglen Ddysgu ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy. Bydd y 25% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.

Digwyddodd seremoni torri'r dywarchen ar 13 Gorffennaf gan nodi dechrau swyddogol i'r gwaith.

Daeth cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys i'r seremoni ynghyd â disgyblion a staff Ysgol Cedewain a chynrychiolwyr o Wynne Construction, sy'n adeiladu'r ysgol newydd.

Bydd yr adeilad newydd yn cymryd lle'r adeiladau o ansawdd gwael sydd gan Ysgol Cedewain ar hyn o bryd, a bydd yn cynnwys cyfleustra ar gyfer dysgwyr bregus iawn, gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi a gardd yn ogystal â gardd gymunedol.

Bydd yn galluogi staff i addysgu mewn amgylchedd sy'n ffit i bwrpas, ac i rieni gael yr hyder bod eu plant yn cael eu cefnogi o fewn y cyfleusterau a'r adeiladau gorau.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Dysgu Powys: "Rwy'n hynod o falch fod gwaith adeiladu'r adeilad newydd i Ysgol Cedewain wedi dechrau. Bydd y cyngor yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf i ddysgwyr mwyaf bregus y sir yn sgil y prosiect hwn.

"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am yr ariannu maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y prosiect hwn. Bydd yr arian yn galluogi'r cyngor i ddarparu amgylchedd i staff addysgu ffynnu a rhoi'r cyfleusterau sy'n diwallu anghenion dysgwyr bregus; sydd o fudd iddyn nhw ac sy'n eu galluogi i fwynhau dysgu."

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg: "Rydym am helpu i ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau i blant a phobl ifanc ledled Cymru a fydd yn galluogi'n holl ddysgwyr i ffynnu. Rwy'n wirioneddol falch ein bod ni, drwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn gallu cefnogi'r prosiect newydd cyffrous hwn yn Ysgol Cedewain ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r adeilad newydd pan fydd wedi ei gwblhau."

Dywedodd Steve Davies, cyfarwyddwr adeiladu gyda Wynne Construction: "Rydym ni'n falch o fod yn gweithio unwaith yn rhagor gyda Chyngor Sir Powys ar ddyluniad yr ysgol hon a'i hadeiladu. Mae'n fuddsoddiad sydd mor bwysig a mawr ei bri o ran darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Cedewain.

"Mae cyflenwi'r prosiect hwn yn ehangu ein profiad helaeth mewn addysg a dyma'r diweddaraf yr ydym wedi ei sicrhau drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru drwy Fframwaith SEWSCAP3, i ganlyn Ysgol Gymraeg y Trallwng."

"Cafodd y cynllun ei gynllunio i ddarparu cyfleuster addysg neilltuol ac amgylchedd sy'n ysbrydoli sy'n dod â chyfleoedd dysgu cyfartal i'w holl ddisgyblion, yn ogystal â darparu cyfleoedd sylweddol drwy Fframwaith Cenedlaethol TOMs ar gyfer contractwyr lleol, cyfleoedd prentisiaeth, a buddion ychwanegol cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar werth, i'r Drenewydd a'r ardal amgylchynol."