Gwnïo i gyfleu profiadau yn ystod Pandemig Covid
19 Gorfennaf 2022
Gellir ei weld yn Y Lanfa, Amgueddfa Powysland a Llyfrgell Y Trallwng tan ddydd Gwener 29 Gorffennaf, ac yna yn Llyfrgell Y Drenewydd, trwy gydol mis Awst.
Mae'n cynnwys myfyrdodau saith ffrind, sy'n rhannu eu hoffter o grefft, dros 15 panel 30cm gan 30cm trwy ddogfennu eu profiadau o'r pandemig - y da a'r drwg - yn ystod y cyfnod ynysu.
Dywedodd Agnès Evans o'r Trallwng, a gafodd y syniad ar gyfer y gwaith crefft crog, iddi gael ei hysbrydoli gan lyfr - 'Threads of Life' - a ysgrifennwyd gan Clare Hunter, ar adeg pan yr oedd yn poeni am ei mab, wrth deimlo iddo ddod yn 'gaeth' yn ei gartref gofal.
Ychwanegodd: "Mae'r awdures yn amlinellu'r angen sydd ynom ni oll i adrodd ein hanes. Mae hi'n esbonio sut yr oedd gwŷr a gwragedd dros y canrifoedd ac ar draws y cyfandiroedd wedi defnyddio brodwaith: i gofnodi digwyddiadau sy'n aml wedi bod yn drawmatig, i sicrhau fod eu lleisiau'n cael eu clywed ac i ddechrau'r broses o adferiad wedi amgylchiadau anodd iawn.
"Mae Clare Hunter, er enghraifft, yn siarad am Mary Brenhines yr Albanwyr a'i hamser mewn carchar, pan y defnyddiodd gwnïo a brodwaith fel ffordd o gyfathrebu gyda'r byd allanol. Mae'n sôn am Dapestri Bayeux, sy'n adrodd stori Brwydr Hastings yn 1066, ac sydd wedi dod yn ddarn o bropaganda gwleidyddol. Mae hi'n cofnodi stori milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a oedd yn defnyddio gwnïo i'w helpu i ddelio gyda PTSD (anhwylder straen wedi trawma).
"Lluniwyd y darn crefft crog hwn gyda nod tebyg: sef cofnodi profiad ein cenedl a chenhedloedd y byd. Ein nod oedd cyfleu rhan o'n hanes a chadw cofnod ohono fel na fyddwn yn anghofio sut mae ein byd wedi newid."
Mae'r darn crefft crog yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau gan gynnwys gwaith Crosio, brodwaith, pwythau croes, gwehyddu a gludwaith, a gellir ei weld yn y fynedfa i'r Lanfa, sydd ar agor:
- Dydd Llun 9.30am - 6.30pm
- Dydd Mawrth 9.30am - 5pm
- Dydd Mercher 9.30am - 1pm
- Dydd Gwener 9.30am - 5pm
- Dydd Sadwrn 9.30am - 1pm
Dywedodd y Cyng David Selby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Trwy'r defnydd syml o nodwydd ac edau, mae'r grŵp hwn o ffrindiau wedi llunio darn celf trawiadol a fydd yn helpu i gadw casgliad o brofiadau ac atgofion a rennir ar gof, o gyfnod unigryw yn ein hanes. Dewch a gweld y darn tecstilau rhyfeddol hwn a mwynhau ei brydferthwch!
"Fe fyddwn yn annog trigolion ac ymwelwyr â Phowys i ddod a gweld yr hyn sydd ar gynnig yn Y Lanfa a'n holl lyfrgelloedd ac amgueddfeydd anhygoel ar draws y sir. Ewch â'ch plant yn ystod y gwyliau ysgol a chofrestru am yr her ddarllen gan gadw golwg am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal trwy gydol yr haf."
Am help neu wybodaeth bellach ar unrhyw un o wasanaethau Llyfrgelloedd Powys, anfonwch e-bost at library@powys.gov.uk neu ffoniwch y Llinell Llyfrgelloedd ar 01874 612394.
LLUN: Agnès Evans a'i gŵr Niall, a ysgrifennodd ychydig o'r testun ac a gydlynodd ochr weinyddol y prosiect, gyda'r darn celf crog yn Y Lanfa, Y Trallwng.