Toglo gwelededd dewislen symudol

Parhau i gydweithio

Leaders of Powys and Ceredigion County Councils

19 Gorfennaf 2022

Leaders of Powys and Ceredigion County Councils
Mae Arweinwyr newydd Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi cadarnhau eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni dwy raglen waith sylweddol.

Etholwyd y Cynghorydd James Gibson-Watt (chwith) o Gyngor Sir Powys a'r Cynghorydd Bryan Davies o Gyngor Sir Ceredigion yn Arweinwyr newydd ar eu cynghorau yn etholiadau'r Llywodraeth Leol ym mis Mai.

Yn eu cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf yn y Sioe Fawr yr wythnos hon, cadarnhawyd eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni BargenTwf Canolbarth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth.

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn bartneriaeth arloesol sy'n cyfuno buddsoddiad o £110m gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Mae disgwyl iddo ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill a fydd yn hwb sylweddol i'r Canolbarth.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth yn un o bedwar a sefydlwyd ar draws Cymru i atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio'r broses o wneud penderfyniadau mewn tri prif faes: trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio datblygu strategol a lles economaidd.