Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Achrediad cenedlaethol am gefnogi ymgyrch

White Ribbon accreditation

19 Gorffennaf 2022

White Ribbon accreditation
Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn achrediad cenedlaethol am ei ymroddiad yn dod â thrais dynion yn erbyn menywod i ben.

Mae darparu cynllun i newid y diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais ymhlith y gweithredu y mae Cyngor Sir Powys wedi ymroi iddo drwy gael Achrediad White Ribbon. Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae White Ribbon UK yn rhan o symudiad byd-eang y rhuban gwyn sy'n ceisio diweddu trais dynion yn erbyn menywod, drwy wneud yr addunedau hyn.

I gael achrediad, mae'r Cyngor wedi cyflwyno Polisi Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol / Polisi Aflonyddu Rhywiol i'r gweithwyr, ac mae llysgenhadon wedi cael eu dynodi o blith y staff, i ledaenu'r neges i ragor o ddynion, datblygu grwpiau eirioli rhuban gwyn oddi fewn i ysgolion uwchradd y sir a chodi ymwybyddiaeth oddi fewn i gymunedau Powys drwy ymgyrchoedd cyfryngau ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac un o Arweinwyr Llysgenhadon White Ribbon gyda Chyngor Sir Powys: "Rydym ni wrth ein boddau'n derbyn yr achrediad hwn. Nid yw trais yn erbyn menywod yn dderbyniol byth ac mae angen i ni i gyd weithio tuag at amgylchedd ble y gall bawb ffynnu."

Mae'r ymgyrch hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy gydol y sioe i godi ymwybyddiaeth.

 

Capwisn Llun: Yn y llun mae Llysgenhadon Arweiniol White Ribbon yng Nghyngor Sir Powys, y Cynghorydd Mathew Dorrance a Matt Perry gyda'r dystysgrif achredu a Phrif Weithredwr y Cyngor Dr Caroline Turner.