Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynnydd Da ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant

Image of people holding hands

21 Gorffennaf 2022

Image of people holding hands
Mae Cyngor Sir Powys wedi croesawu canfyddiadau llythyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant y Cyngor.

Roedd y llythyr yn adrodd ar ganfyddiadau Gwiriad Gwelliant a gynhaliwyd ym mis Mai, yn canolbwyntio ar feysydd allweddol Pobl, Atal, Lles a Phartneriaeth.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae'r llythyr gwella yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi'u gwneud yn ddiweddar.

"Rydym yn croesawu'r canfyddiadau a bod AGC yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud mewn meysydd allweddol ar gyfer y gwasanaethau. Rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud a'r her i'r Cyngor yw cynnal y symudiad hwnnw i fyny o dan amgylchiadau heriol iawn."

Yn ei chrynodeb, dyma'r hyn a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru:  

Pobl - Canfuom fod yr awdurdod lleol wedi gweithio'n galed i ail-lunio ac ailgynllunio ei wasanaeth gan ganolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth o wasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.

Atal - Yn y gwasanaethau plant, er bod proses ar waith mewn perthynas â throsglwyddo plant rhwng timau a gwasanaethau, canfuom enghreifftiau lle'r oedd y cymorth i rai teuluoedd yn rhy dameidiog. Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau gwasanaethau di-dor a chydgysylltiedig sy'n atal anghenion rhag gwaethygu ac sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd.

Llesiant - Gwelsom enghreifftiau da o asesiadau galluedd meddyliol a dulliau gwneud penderfyniadau ar waith er budd pennaf cleifion yn unol ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a chod ymarfer cysylltiedig.

Partneriaeth - Clywsom am waith partneriaeth effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol mewn perthynas â rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd ward rhithwir. Nododd un ymarferydd ei fod yn teimlo bod 'dull gweithredu gyda'n gilydd' ar waith er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig â rhyddhau o'r ysbyty.

Bydd yr AGC yn parhau i fonitro cynnydd drwy weithgareddau monitro ac adolygu perfformiad parhaus gyda'r Cyngor.

Dolen i'r adroddiad llawn:  https://arolygiaethgofal.cymru/llythyr-gwirio-gwelliant-awdurdod-lleol-gwasanaethau-cymdeithasol-cyngor-sir-powys