Lansio Tasglu Tlodi Plant Powys
21 Gorffennaf 2022
Cafodd Tasglu Tlodi Plant ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon (19 Gorffennaf) gan y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach.
Bydd y tasglu'n mapio'r cymorth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan bartneriaid ledled Powys i gefnogi teuluoedd ac i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau sy'n bodoli.
"Un o'r ymrwymiadau yn ein cytundeb partneriaeth flaengar oedd ffurfio tasglu tlodi plant i weithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus i liniaru'r argyfwng cynyddol o dlodi plant yn ein cymunedau," meddai'r Cynghorydd Dorrance.
"Ni allwn adeiladu Powys cryfach, tecach a gwyrddach ry'n ni ei eisiau heb fynd i'r afael â thlodi plant a'i achosion. Rwy'n benderfynol o ddod â gwasanaethau'r cyngor, partneriaid a chymunedau ynghyd i ddod o hyd i gynllun lleol i fynd i'r afael â thlodi a chynyddu symudedd cymdeithasol."