Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau

Image of colourful people icons on top of the jobs section of a newspaper

25 Gorffennaf 2022

Image of colourful people icons on top of the jobs section of a newspaper
Mae busnesau a sefydliadau dros Canolbarth Cymru yn cael eu hannog i lenwi arolwg ar gyflogaeth a sgiliau.

Yn 2019, lansiodd y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Gynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd sydd wedi cael eu defnyddio i siapio blaenoriaethau sgiliau i gyflogwyr ar draws rhanbarthau perthnasol a dylanwadu ar y ddarpariaeth sy'n cael ei chynnig drwy sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer  Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yng Nghyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd David Selby, yr Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus yng Nghyngor Sir Powys, sy'n cynrychioli Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru:  "Dros y tair blynedd diwethaf, cafwyd newid sylweddol i'r sgiliau sy'n ofynnol gan ddiwydiant i lywio eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-bandemig.

"Mae'n bwysicach nac erioed ein bod ni'n sicrhau fod pobl yn meithrin y sgiliau cywir mewn colegau, prifysgolion a prentisiaethau.

"Rydym yn annog pob busnes a sefydliad ar draws y rhanbarth i lenwi'r arolwg cyflogaeth a sgiliau i helpu i lywio ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd ar gyfer 2022-2025."

Lansiwyd arolwg rhanbarth Canolbarth Cymru heddiw (dydd Llun 25 Gorffennaf) ac mae'n rhedeg tan ddydd Sul 14 Awst.

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cyflogaeth-a-sgiliau

Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y tirlun sgiliau ar draws y rhanbarth a chysylltu cyllid sgiliau â'r galw gan gyflogwyr.

Gwahoddir busnesau/sefydliadau mewn rhanbarthau eraill i lenwi eu harolwg sgiliau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol lleol: