Ailagor pont ar y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy
28 Gorffennaf 2022
Caewyd Ffordd Glangrwyne (y C126) ym mis Chwefror 2020 yn dilyn difrod helaeth i'r arglawdd o ganlyniad i Storm Dennis. Yn dilyn archwiliad, darganfuwyd fod rhan o drawstiau gwaelodol y bont 64 metr sy'n dyddio o'r 1980au wedi rhannol chwalu oherwydd rhwd.
Fe wnaeth gymryd tipyn o amser ac adnoddau i ddatblygu cynllun i drwsio ategion y strwythur Panel Acrow sy'n ddeugain mlwydd oed, heb achosi difrod amgylcheddol i'r ardal gyfagos. Gan weithio o fewn canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, dyfeisiodd Pro Steel Engineering, cwmni o Bontypŵl, gynllun i ddefnyddio'r pileri presennol i godi'r bont a gosod ategion newydd.
"Dechreuodd y gwaith ym mis Mai 2022 a newidiwyd y strwythurau a'r trawstiau ategol o fewn tri mis," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Ond ar yr olwg gyntaf, fe allech feddwl nad oes dim wedi newid ar y bont newydd, gyda'r platiau trwm gwreiddiol yn dal i fod yno. Gallaf eich sicrhau chi bod y rhain wedi cael eu harchwilio'n drwyadl ac ni fydd angen eu newid am gryn dipyn eto.
"Mae wedi bod yn braf gallu defnyddio gwasanaethau cwmni peirianneg lleol i wneud y gwaith hwn i safon uchel. Mae sicrhau bod y strwythurau'n ddiogel ac yn addas i gerbydau ysgafn unwaith eto yn newyddion gwych i'r ardal leol."
Mae pont Llangrwyne yn strwythur ar y cyd rhwng Powys a Sir Fynwy gyda'r ddau gyngor yn rhannu'r costau trwsio. Mae cynghorwyr lleol o naill ochr yr afon yn hapus iawn i weld y bont nôl yn cysylltu'r pentrefi.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah-Jane Beecham a'r Cynghorydd Matt Beecham o Grughywel, Powys a'r Cynghorydd Simon Howarth o Fryn Llaneli, Sir Fynwy: "Mae'r bont hon yn gyswllt pwysig rhwng y cymunedau a'r siroedd ar naill ochr Afon Wysg. Gobeithio y gallwn elwa o'r cydweithio rhwng y ddau gyngor i fynd i'r afael â nifer o'r heriau eraill i wynebu ein cymunedau."
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: "Bydd trigolion ac ymwelwyr i Bowys a Sir Fynwy'n falch i weld Pont Llangrwyne'n ailagor. Mae'r ddau gyngor wedi gweithio'n agos i fynd i'r afael â'r difrod a achoswyd gan y llifogydd, sydd, ochr yn ochr â'r tywydd poeth diweddar wedi pwysleisio'r angen i ni drin newid yn yr hinsawdd o ddifrif."