Toglo gwelededd dewislen symudol

Gosod cae 3G newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfyllin

A 3G pitch

28 Gorffennaf 2022

A 3G pitch
Bydd gwaith yn dechrau fis nesaf i osod cae 3G newydd yng nghanolfan chwaraeon yng ngogledd Powys, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure.

Bydd y cae 3G newydd yn cael ei osod yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfyllin yn lle'r hen gae chwaraeon.  Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gwell llifoleuadau.

Penodwyd Pave Aways Ltd yn gontractwr i osod y cae a'r llifoleuadau.

Bydd y cae 3G yn addas ar gyfer chwarae pêl-droed, hoci a nifer o gampau eraill at ddefnydd cymuned Llanfyllin ac ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cymuned ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "Rwy wrth fy modd y bydd gwaith i osod cae 3G yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfyllin i ddechrau'n fuan.

"Mae'r datblygiad hwn yn dangos ein hymroddiad parhaus i ddarparu cyfleusterau hamdden o ansawdd uchel, sy'n gynhwysol ac yn hwylus i bawb yn holl gymunedau Powys.  Mae hefyd yn enghraifft wych o waith partneriaeth rhwng y cyngor a Freedom Leisure."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Un o'r amcanion yn y Strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella hawliau a phrofiadau dysgwyr.

"Bydd y cae newydd a fydd yn gwella cyfleusterau'r ganolfan, yn helpu'r cyngor i wireddu'r amcan hwn.  Nid yn unig y bydd y gymuned yn elwa o'r cae newydd hwn, ond bydd hefyd yn helpu dysgwyr i wella a datblygu eu sgiliau chwaraeon a'u lles trwy allu defnyddio cae pob tywydd.

Dywedodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal Powys, Freedom Leisure: "Bydd y llain 3G newydd o fudd mawr i'n holl gwsmeriaid yn Llanfyllin er mwyn iddynt aros mor egnÏol ac iach â phosibl, a bydd yn gymhelliant gwych i annog pawb yn y gymuned i gymryd rhan yn amlach."

Mae'r prosiect yn rhan o raglen gyfalaf i wella cyfleusterau ar draws y sir ac yn arwain at fuddion i iechyd a lles cymunedau Powys.

Y cam nesaf yw trafod gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr clybiau chwaraeon, yr ysgol leol ac arweinwyr cymunedol, y posibilrwydd o ddatblygu cae yn Llanfair Caereinion.