Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gair i atgoffa am adnodd 'Llyfrau am Ganser'

Tim and Ry with their banner stands

5 Awst 2022

Tim and Ry with their banner stands
Mae trigolion ym Mhowys sy'n byw gyda chanser, neu'n gofalu am anwyliaid gyda chanser, yn cael eu hatgoffa y gallant fenthyca detholiad o lyfrau a argymhellir gan weithwyr Macmillan proffesiynol o wasanaeth llyfrgelloedd y sir.

Prynwyd pedwar set o 50 llyfr, flwyddyn yn ôl diolch i grant oddi wrth Gronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i raglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys.

Mae'r rhestr yn cynnwys llyfrau ffeithiol am ganser (diet, symptomau), gan gynnwys ychydig am brofiad pobl o fyw gyda chanser. Gall trigolion chwilio a gofyn am lyfr o'r catalog llyfrgelloedd ar-lein sydd ar gael ar https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/powys_cy neu trwy alw yn eu cangen leol a gofyn i'w llyfrgellydd.

Mae taflen ar gael hefyd sy'n rhestru'r holl deitlau.

Mae'r prosiect Llyfrau am Ganser yn ffurfio rhan o'r rhaglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys sy'n bartneriaeth rhwng Cymorth Canser Macmillan, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Y nod yw cefnogi trigolion Powys sydd â diagnosis yn well trwy gynnig yr hyn a elwir yn asesiad anghenion holistig. Mae hyn yn caniatáu i bobl ddynodi a thrafod eu prif bryderon yn gyfrinachol gyda gweithiwr cyswllt sydd wedi'i hyfforddi a chael cefnogaeth heb fod yn feddygol yn agosach at gartref. Mae'r llyfrau am ganser yn adnodd ychwanegol a all fod yn ddefnyddiol i rywun sy'n byw gyda chanser gan gynnwys teulu, ffrindiau, neu ofalwyr. 

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau yng Nghymru Macmillan: "Mae'n hanfodol fod pobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd yn cael mynediad rhydd at wybodaeth gywir ar amser ac mewn lle sy'n gweithio iddynt hwy. Ni all pawb gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth am ganser ar-lein, neu nid ydynt yn gyfforddus i wneud hyn. Ym Mhowys wledig, mae llyfrgelloedd yn chwarae rôl allweddol yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethau, ac rwyf yn wirioneddol falch fod y setiau hyn o lyfrau a ariannwyd gan Gronfeydd Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Cymru ar gael o lyfrgelloedd ar draws y sir."

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys lewyrchus: "Mae ein llyfrgelloedd yn ased cymunedol gwerthfawr mawr eu parch sy'n cynnig darllen ymlaciol a gwybodaeth hanfodol i'r rheini a all fod ei angen. Rwyf yn falch eu bod yn ôl ar agor wedi'r pandemig. Er bod y llyfrau am ganser wedi bod ar gael am flwyddyn, roedden ni'n teimlo ei bod yn werth atgoffa pobl eu bod yn y llyfrgelloedd. Hyd yn hyn, rydym wedi cael adborth positif oddi wrth drigolion sydd wedi benthyca llyfr ac yn gobeithio y bydd nifer fwy o bobl sy'n byw gyda chanser neu'n gofalu am anwyliaid gyda chanser yn eu canfod yn ddefnyddiol yn yr un modd. Mae ein staff yn eich llyfrgell leol yno i'ch helpu."

Daethpwyd o hyd i ddau lyfr Cymraeg hefyd gan y rhaglen a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd sydd heb eu hadolygu gan Macmillan ond a ellid cael eu croesawu gan y sawl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y rhaglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys a sut i gael mynediad at asesiad anghenion holistig yn dilyn diagnosis ar: https://cy.powysrpb.org/icjpowys