Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pedwerydd adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

PSB 2040 Logo

8 Awst 2022

PSB 2040 Logo
Bydd gwaith partneriaeth yn hanfodol ym Mhowys wrth i'r sir ailgodi o bandemig Covid-19, dyna neges y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cynghorydd James Gibson-Watt ym mhedwerydd adroddiad blynyddol y Bwrdd a gymeradwywyd ar 29 Gorffennaf y byddai gweithio mewn partneriaeth yn bwysig wrth i'r sir ailgodi o'r pandemig.

Mae'r bwrdd yn bartneriaeth strategol statudol a sefydlwyd dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gofyn i'r partneriaid a sefydliadau lleol allweddol ym Mhowys gan gynnwys yr heddlu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y trydydd sector a chynghorau cymuned, weithio gyda'i gilydd ar ddull gydlynol a thymor hir o fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i bobl y sir.

"Daeth blwyddyn 2021-2022 i ben yn wahanol iawn i'r man cychwyn, gyda gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau, y trydydd sector a busnesau lleol yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau, gan fod yn arloesol a dyfeisgar wrth ddod allan o'r pandemig i'r "normal newydd".

"Mae ymateb y bartneriaeth a gafodd ei chydlynu a'i gweithredu trwy fframweithiau cynllunio perthnasol at argyfyngau i'w ganmol yn fawr a 'does dim dwywaith fod yr effeithiolrwydd yn deillio'n rhannol o'r berthynas a'r cysylltiadau a ddatblygwyd trwy'r Bwrdd.

"Rydym wedi parhau i fwrw ymlaen gyda rhai o amcanion a chamau ein Cynllun Llesiant sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r Bwrdd yn ceisio ei wneud, i wella'r cyfleoedd a'r profiadau i drigolion a chymunedau ym Mhowys.  Mae prosiectau a ddechreuodd yn 2018-19 wedi parhau i dyfu, gyda syniadau newydd ac uchelgais parhaol y partneriaid.

"Wrth symud ymlaen, bydd gan y Bwrdd rôl bwysig wrth helpu Powys i ailgodi o'r pandemig," ychwanegodd.

Gallwch weld yr adroddiad yn llawn trwy'r ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/7553/Bwrdd-Gwasanaethau-Cyhoeddus-Powys---Ein-Hadroddiad-Cynnydd-Blynyddol