Cabinet yn ystyried adroddiad perfformiad
9 Awst 2022
Mae'r cyngor yn casglu ac yn adrodd ar ystod eang o wybodaeth am wasanaethau er mwyn mesur perfformiad yn erbyn cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Bu'r Cabinet yn ystyried y wybodaeth perfformiad diweddaraf ar gyfer chwarter un 2022/23 ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf.
Ar y cyfan, roedd 69% o 55 amcan y Cynllun Gwella Corfforaethol (CIP) adroddadwy ar y trywydd iawn ac roedd 64% o'r 65 mesur CIP adroddadwy yn cyflawni eu targed.
Yn ystod 2022-2023, bydd perfformiad y Cyngor yn cael ei adrodd yn erbyn 'Gweledigaeth 2025: Cynllun Gwella Corfforaethol', a gafodd ei ddiweddaru'n ysgafn ym mis Ebrill 2022 cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol.
Mae Cynllun Gwella Corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer 2023 ymlaen i gefnogi gweledigaeth y Cabinet newydd: Adeiladu Powys gryfach, tecach, gwyrddach.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Er gwaethaf amgylchiadau heriol a'r angen i reoli adnoddau'r Cyngor yng nghyd-destun gweithgareddau 'busnes fel arfer' a'r ymateb i COVID-19 a 'chostau byw', roedd y perfformiad yn erbyn fframwaith monitro arferol y Cyngor yn gadarnhaol i raddau helaeth.
"Rydym ar darged i gwblhau dros 50 o dai fforddiadwy erbyn chwarter 4 2022-2023, fodd bynnag, oherwydd oedi gyda deunyddiau a'r gweithlu yn gysylltiedig â COVID, bu'n rhaid diwygio'r bwriad o gwblhau dau safle yn chwarter un a fydd bellach yn cael ei gwblhau yn chwarter 2.
"Mae strategaeth fuddsoddi yn y sector preifat wedi'i drafftio o fewn cynigion Bargen Twf Canolbarth Cymru. Nod y strategaeth hon yw amlinellu'r egwyddorion a'r dull o ddenu buddsoddiad ym mhrosiectau'r Fargen Dwf ochr yn ochr â chyllid y Fargen Dwf er mwyn darparu pecyn mwy cynhwysfawr o fuddsoddiad i'r rhanbarth.
"Mae 15 yn rhagor o unigolion wedi ymuno â'r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gydag 11 wedi dechrau mewn swyddi.
"Aeth y gwaith yn ei flaen yn dda ar gyfer Cyfnewidfa Trafnidiaeth y Trallwng ac roedd yn gwbl weithredol erbyn diwedd Mai 2022.
"Bydd Chweched Powys Sixth yn cael ei lansio ym mis Medi 2022 i drawsnewidiad addysg Ôl-16. Bydd y cynnig yn parhau i gael ei ddatblygu er mwyn gwella'r cynnig addysgol i gynnwys cymwysterau galwedigaethol, prentisiaethau, a lleoliadau mewn gweithleoedd.
"Lansiwyd ysgol rithiol Plant sy'n Derbyn Gofal y tymor hwn i gefnogi ein Plant sy'n derbyn Gofal. Llwyddodd Ysgol Neuadd Brynllwarch, Ysgol Cefnllys ac Ysgol Golwg y Cwm i ennill statws Ysgolion sy'n Wybodus am Drawma. Cafodd Llwyfan Cynhwysiant Powys, ynghyd â systemau ADY blynyddoedd cynnar Powys a chydweithio eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel arfer gwerth eu rhannu.
"Croesawodd y Trallwng rhan olaf cymal 4 Taith Feicio Merched Prydain ar 9 Mehefin. Roedd Chwaraeon Powys yn rhan fawr o'r gwaith cynllunio a darparu gweithgareddau seiclo/chwaraeon ar y llinell derfyn. Gan weithio gyda Beicio Cymru a Chlwb Beicio Hafren, bu dros 60 o ddisgyblion Blwyddyn 6 o ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi beicio a sut i sbrintio i'r llinell derfyn.
"Mae gan rwydwaith ffyrdd y sir 127 o Warchodfeydd Natur Lleiniau Ymyl y Ffordd. Mae'r Cyngor a'i gontractwyr yn gweithio'n galed i warchod y bywyd gwyllt sy'n byw ar ymylon ffyrdd y sir. Mae nifer o fentrau ar y gweill i adael rhannau cyfan o'r lleiniau heb eu torri neu gyda'u cynlluniau rheoli unigol eu hunain er budd y rhywogaethau sy'n bresennol ar y safleoedd hynny."
Uchafbwyntiau perfformiad chwarter un 2022/2023
- Cynnydd yn nifer y gofalwyr maeth ym Mhowys i 72
- 509 o oedolion yn derbyn taliadau uniongyrchol rheolaidd
- 3 cymuned newydd wedi dechrau ar eu taith i dderbyn band eang cyflym iawn
- 3 o drefi Powys wedi derbyn llwybryddion Wi-Fi a chapasiti ystadegol am ddim.
- Cymeradwywyd £5 miliwn dros 3 blynedd ar gyfer cais Trawsnewid Trefi
- Llwyddwyd i ailgartrefi 45 o aelwydydd digartref
- Llwyddwyd i atal 39 o aelwydydd oedd dan fygythiad o ddigartrefedd rhag bod yn ddigartref
- Dyfarnwyd £10,220 i 4 clwb / sefydliad ym Mhowys drwy gais Cronfa Cyllid Cymru Chwaraeon Cymru
- 2,746 o gyfrifon newydd Fy Mhowys wedi'u creu
- 4,067 o drigolion bellach ar filio di-bapur Treth y Cyngor