Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadeirydd ac is-gadeiryddion yn cael eu hethol i Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys

Cllr Sian Cox, Carl Cooper and Kirsty Williams

9 Awst 2022

Cllr Sian Cox, Carl Cooper and Kirsty Williams
Etholwyd Carl Cooper yn Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB). Cafodd Carl, sy'n Brif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), ei ethol yn Gadeirydd yn ystod cyfarfod diweddar o'r Bwrdd.

Mae'r RPB yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr nifer o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys a'r Trydydd Sector. Mae hefyd yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli buddiannau dinasyddion a gofalwyr di-dâl.

Diben yr RPB yw gosod strategaeth a sefydlu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd, gofal a lles. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar gyflawni'r hyn sydd o bwys i bobl a chymunedau. Maent yn sicrhau dull cydweithredol ac amlasiantaethol sy'n gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gan sicrhau canlyniadau da i'n poblogaeth yma ym Mhowys.

Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi dyraniad y sir o Gyllid Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth eang o fentrau fel Cysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Cyfeillio Powys a Gofalwyr Ifanc.

Bydd Carl Cooper yn gwasanaethu fel Cadeirydd am y flwyddyn i ddod. Bydd dau Is-Gadeirydd, sef y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet Powys dros Bowys Ofalgar a Kirsty Williams, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn ymuno ag ef.

Meddai Carl: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi dderbyn y rôl hon mewn cyfnod pan mae gweithio gyda'n gilydd dros Bowys yn bwysicach nag erioed. Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bartneriaid am eu diwydrwydd a'u hymroddiad wrth i ni geisio cydweithio i wella pethau ar gyfer pobl Powys."

Am fwy o wybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys a'r gwaith mae'n ei wneud, ewch i https://cy.powysrpb.org/

LLUN: Is-Gadeirydd RPB Powys - y Cyng Sian Cox, Aelod Cabinet Powys dros Bowys Ofalgar; Cadeirydd RPB Powys - Carl Cooper, Prif Weithredwr PAVO; Is-Gadeirydd RPB Powys - Kirsty Williams, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.