Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dweud eich dweud am ddyfodol coed stryd ym Machynlleth

Image of Machynlleth town centre

15 Awst 2022

Image of Machynlleth town centre
Mae ymarfer ymgysylltu i fesur y farn leol am gynigion i wella'r amodau o ran y coed yn y stryd ar hyd Heol Maengwyn (A489), Heol Penrallt a Heol Pentrehedyn (A487), a phlannu 12 coeden arall yng nghanol tref Machynlleth, ar agor erbyn hyn tan 16 Medi 2022.

Yn y 1980au, plannwyd deg ar hugain o goed stryd ar hyd ffyrdd canol y dref, o fewn yr ardal gadwraeth. Fodd bynnag, mae diffyg rhagwelediad a'r amodau trefol anffafriol yn golygu nad oes gan lawer o'r coed gwreiddiol le digonol na'r amodau cywir i ffynnu. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at goed ansefydlog neu rai wedi'u tyfu'n wael, canghennau meirwon, gwreiddiau'n codi palmentydd gan beryglu adeiladau cyfagos a choed mewn mannau gwael yn achosi rhwystrau.

Gan fod cefnffyrdd (yr A487 a'r A489) yn brysur, mae archwiliadau diogelwch rheolaidd y coed hyn eisoes wedi arwain yn anochel at ddileu rhai o'r enghreifftiau gwaethaf. Mae archwiliadau pellach wedi nodi saith coeden arall y bydd angen eu torri'r gaeaf hwn.

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) a Llywodraeth Cymru yn cynnig, unwaith y bydd y coed ychwanegol hyn wedi'u cwympo, bod cynllun ailblannu newydd yn cael ei fabwysiadu i wella canol tref Machynlleth a darparu amodau plannu gwell ar gyfer coed newydd yn ogystal â chynyddu nifer y coed stryd o'r 30 gwreiddiol i 42.

"Gall colli coed fod yn fater emosiynol ac er ei bod yn ymddangos yn newyddion trist ar y dechrau, mae'n gyfle delfrydol i wella amodau'r coed sydd ar ôl a chyfle i ailblannu coed yn lle'r rhai a gwympwyd mewn ffordd fwy priodol - gan sicrhau ein bod yn dewis y lleoliadau, y rhywogaethau coed a'r dull cywir o blannu i warantu eu goroesiad a'u presenoldeb ym Machynlleth am flynyddoedd i ddod," esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach.

"Rydym yn ymwybodol o fanteisio niferus plannu trefol. Mae coed nid yn unig yn gwella ein hamgylcheddau drwy edrych yn brydferth, ond gallant hefyd chwarae rhan hanfodol wrth frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd drwy ddarparu hafan ar gyfer bywyd gwyllt, cynnig cysgod, amsugno dŵr pan fydd gormod ohono, a gwella ansawdd aer.

"Ar ôl cael eu plannu ynardal gadwraeth y dref, mae yna rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd lle'r coed sydd eisoes wedi'u cwympo, neu sydd ar fin cael eu cwympo. Ond rydym yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn briodol fel mod i genedlaethau'r dyfodol elwa ar hyn a mwynhau'r coed am flynyddoedd lawer."

Gwahoddir pobl leol i rannu eu syniadau ar y cynigion i gymryd lle'r hen goed a phlannu 12 coeden ychwanegol yng nghanol tref Machynlleth. Mae modd gweld y cynigion ar-lein neu wyneb yn wyneb yn Y Plas Machynlleth, Llyfrgell Machynlleth, Caffi Alys a'r Clwb Bowlio. Bydd sesiwn galw heibio hefyd yn y Clwb Bowlio ddydd Llun 5 Medi am 3-7:30pm, gyda chyflwyniad am 6pm.

Am ragor o wybodaeth ac i ddweud eich dweud, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ymgynghoriad-ar-goed-stryd-machynlleth