Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ail gyfle i ofalwyr di-dâl ym Mhowys hawlio tâl cymorth o £500

An unpaid carer supporting her mother

15 Awst 2022

An unpaid carer supporting her mother
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Grant Cymorth Ariannol i Ofalwyr Di-dâl wedi ailagor, ac mae'r cyngor sir yn annog unrhyw un ym Mhowys sy'n gymwys, ac heb wneud cais eisoes, i fwrw ati i hawlio.

Ariennir y taliadau hyn o £500 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol i wynebu nifer o ofalwyr di-dâl dros y pandemig, ac i helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol.

Rhaid i'r rhai hynny sy'n cyflwyno cais, fod yn byw ym Mhowys. Rhaid hefyd:

  • Gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel
  • Derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 neu wedi derbyn ôl-daliad Lwfans Gofalwyr ar y dyddiad hwnnw.

Gall gofalwyr di-dâl wneud cais ar-lein trwy wefan Cyngor Sir Powys: Tâl Cymorth Ariannol i Ofalwyr di-dâl

Ail-agorodd y cyfnod cofrestru ar gyfer y tâl o £500 ddydd Llun 15 Awst a bydd yn cau am 5pm, dydd Gwener 2 Medi.

Os bydd gofalwr di-dâl angen help llaw i wneud cais, neu angen manylion pellach, mae modd galw'r cyngor ar 01597 826345 neu dros e-bost: reviews@powys.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai dyma'r cyfle olaf i ofalwyr di-dâl sy'n derbyn Lwfans Gofalwyr i wneud cais am y cymorth ariannol ychwanegol hwn.

"Rydym wedi ysgrifennu at ofalwyr di-dâl sydd ar Lwfans Gofalwyr yn eu gwahodd i anfon cais, ond efallai i ni hepgor rhai pobl.  Os ydych chi'n un o'r rheiny, rydym am glywed gennych.  Cofiwch gysylltu â ni.  Hefyd os ydym wedi cysylltu ond nad ydych wedi cofrestru am y tâl cyn hyn, dyma gyfle arall i chi wneud hynny.

"Rydym yn credu y gallai gymaint â 1,400 o drigolion Powys fod yn gymwys i dderbyn y £500.  Rydym yn ymwybodol fod nifer o ofalwyr di-dâl yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ac rydym am sicrhau fod pawb yn gwybod am unrhyw gymorth ariannol ychwanegol allai fod ar gael iddynt, a'u helpu i'w hawlio.  Mae ein gofalwyr di-dâl yn gwneud gwaith aruthrol bob dydd trwy gydol y flwyddyn, ac mae eu cyfraniad i les rhai o ddinasyddion sydd fwyaf agored i niwed, yn aml yn cael ei anwybyddu.  Fe wnawn bopeth y gallwn i'w helpu."

Gall gofalwyr di-dâl hefyd gysylltu â Chyngor Sir Powys ar 01597 826345 am gyngor cyffredinol ar grantiau a budd-daliadau.