Griliau - cyhoeddi rhybudd diogelwch
18 Awst 2022
Mae a wnelo'r rhybudd diogelwch â rhai ffyrnau Belling Stoves a New World a gynhyrchwyd gan Glen Dimplex Home Appliances (GDHA).
Cyhoeddwyd y rhybudd diogelwch gan y Swyddfa Diogelwch Cynnyrch (OPSS).
Mae'r rhybudd yn atgoffa defnyddwyr, os defnyddir y gril nwy â'r drws ar gau, yna mae perygl y gallai lefelau peryglus o garbon monocsid gynyddu, gan beri risg o anaf difrifol neu farwolaeth i'r bobl yn y cyffiniau.
Mae'r OPSS wedi cyhoeddi gofynion diogelwch i GDHA, sy'n ysgrifennu at bob defnyddiwr, i'w atgoffa i ddefnyddio'r gril nwy dim ond pan fydd drws y gril yn gwbl agored.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Ddiogelach: "Rwy'n annog defnyddwyr sydd â'r cyfarpar yma i sicrhau bod y drws bob amser yn cael ei gadw'n gwbl agored pan fo'r gril wedi'i gynnau ac yn atgoffa pob defnyddiwr o bwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau diogelwch ar gyfer cogyddion nwy."
Am ragor o wybodaeth, dylai defnyddwyr gysylltu â GDHA ar 0800 110 5728 neu drwy eu gwefan: