Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwyr yn dathlu canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3

Image of two people celebrating their exam results

18 Awst 2022

Image of two people celebrating their exam results
Mae'r cyngor sir heddiw (dydd Iau 18 Awst) wedi llongyfarch dysgwyr Powys ar eu cyraeddiadau ar ôl derbyn canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3.

Mae Cyngor Sir Powys yn falch i glywed am y nifer fawr o ddysgwyr a gafodd y canlyniadau oedd eu hangen i symud ymlaen i'r cam nesaf at ddyfodol cyffrous, un ai mewn prifysgol, i brentisiaeth neu i'r gweithle.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffem longyfarch pob un o'n dysgwyr ar eu canlyniadau heddiw.

"Rydym yn hynod falch o gyraeddiadau pob un o'n dysgwyr ac mae'n braf clywed am eu llwyddiannau.

"Rydym yn cydnabod yr heriau i wynebu ysgolion a dysgwyr, gan gynnwys sefyll arholiadau am y tro cyntaf ers tair blynedd.

"Rydym am ddiolch i'r ysgolion am gefnogi'r dysgwyr trwy eu harholiadau ond hefyd i'w teuluoedd am gefnogi ac annog eu plant trwy gydol eu haddysg.

"Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r dysgwyr yn y dyfodol."