Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ambiwlans Awyr Cymru

Image of a helicopter rotor

18 Awst 2022

Image of a helicopter rotor
Mae Arweinwyr Cyngor Sir Powys wedi mynegi eu pryder ynghylch y cynigion a allai arwain at gau canolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng.

Dan y cynigion y mae'r elusen yn eu hystyried, gallai'r criwiau yn y Trallwng gael eu symud i ogledd Cymru.

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n wasanaeth hanfodol, yn enwedig mewn sir wledig fel Powys. Mae hefyd yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth gyhoeddus gan ein trigolion," meddai'r Arweinydd, y Cyngh James Gibson-Watt a'r Is-Arweinydd Matthew Dorrance.

"Mae felly'n siomedig ac yn destun pryder mawr y gallai eu cynnig olygu y bydd y ganolfan yn y Trallwng yn cau.

"Byddwn yn ceisio sicrwydd gan uwch gynrychiolwyr Ambiwlans Awyr Cymru na fydd y newidiadau'n effeithio ar ein trigolion. Byddwn hefyd yn gofyn am esboniad o'r cyfiawnhad dros y cynnig yma, yn enwedig, esboniad y sut y bydd symud eu canolfan o'r Trallwng i ogledd Cymru yn gwella'r gwasanaeth i'n trigolion."