Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Cynllun Adolygu a Chytundeb Cyflawni
Cafodd CDLl Powys (2011-2026) ei fabwysiadu yn 2018.
Mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu Cynllun o leiaf bob 4 blynedd o ddyddiad ei fabwysiadu.
Mae Adroddiad Adolygu 2022 (PDF, 1 MB) yn ystyried effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig ac yn cadarnhau'r broses adolygu sy'n dilyn wrth baratoi am CDLl Amnewid. Cytunodd y Cabinet ar yr Adroddiad Adolygu ym mis Chwefror 2022 ac fe'i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn ôl gofynion y gyfraith.
Cyhoeddodd y Cyngor Gytundeb Cyflawni (CC) ar gyfer paratoi'r CDLl Newydd ym mis Mehefin 2022 gan gynnwys amserlen a chynllun cyfranogiad cymunedol. Gan fod dyddiadau yn yr amserlen baratoi wreiddiol wedi llithro, bu'n rhaid cytuno ar CC diwygiedig. Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig ar gyfer CDLl Newydd Powys (2022-2037) (PDF, 706 KB) gan y Cyngor Llawn ar 11 Gorffennaf 2024 a'i gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 15 Gorffennaf 2024.
Gellir gweld y Cynllun Adolygu (2022) a'r Cynllun Cyflawni (2024) ar-lein neu eu harchwilio ym mhrif swyddfa'r Cyngor (Neuadd y Sir Powys, Llandrindod , LD1 5LG) yn ystod oriau agor arferol.