Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tawelu meddyliau Arweinwyr

Image of a helicopter rotor

24 Awst 2022

Image of a helicopter rotor
Mae Arweinwyr Cyngor Sir Powys wedi croesawu sicrwydd gan Ambiwlans Awyr Cymru y byddant yn ymgynghori â phartneriaid statudol cyn dod i benderfyniad terfynol ar ddyfodol y gwasanaeth yn Y Trallwng.

Cyfarfu Arweinydd Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt a'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Matthew Dorrance, y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel a'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu â Chadeirydd Ymddiriedolwyr Ambiwlans Awyr Cymru, David Gilbert a'r Prif Weithredwr Dr Sue Barnes i drafod cynlluniau a gafodd eu datgelu'n answyddogol, i gau canolfan y gwasanaeth yn Y Trallwng a'i symud i Ogledd Cymru.

"Cawsom sicrwydd nad oes unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi'i wneud ac y byddent yn ymgynghori â phartneriaid allweddol megis Cyngor Sir Powys cyn dod i benderfyniad terfynol," dywedwyd ar ôl y cyfarfod.

"Mae gan trigolion Powys barch mawr at y gwasanaeth Ambiwlans Awyr ac mae hynny'n amlwg o'r swm enfawr o arian sy'n cael ei godi yn y sir ac mae'n gwasanaeth yn hanfodol i gael cleifion o sir wledig fwyaf y wlad at gyfleusterau meddygol.

"Yn y cyfarfod fe wnaethom ofyn i gael gweld y data a ddefnyddiwyd fel tystiolaeth ar gyfer eu cynigion cyntaf gan bwyso am sicrwydd y byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn dangos gwell gwasanaeth i bobl Powys.

"Mae'r Ambiwlans Awyr yn hanfodol i bobl Powys ac os bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol, rhaid gwella'r ddarpariaeth i bawb.  Mae trin cleifion mewn argyfwng ac yna'u cludo i'r ysbyty mor fuan â phosibl yn ffactor dyngedfennol.  Bydd angen proses graffu annibynnol a thrwyadl i'n sicrhau ni a phobl Powys y byddai cynnig i symud y ganolfan i hofrenyddion yn gwella'r gwasanaeth."

DIWEDD