Dysgwyr yn dathlu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2
25 Awst 2022
Mae Cyngor Sir Powys yn falch i glywed am y nifer fawr o ddysgwyr a gafodd y canlyniadau oedd eu hangen i symud ymlaen i'r cam nesaf ar eu llwybr gyrfa, boed mewn addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffem longyfarch pob un o'n disgyblion a gafodd eu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 heddiw.
"Rydym yn cydnabod yr heriau i wynebu ysgolion a dysgwyr, gan gynnwys sefyll arholiadau am y tro cyntaf ers tair blynedd, sy'n golygu ein bod yn hynod falch o gyraeddiadau pob un o'n dysgwyr ac mae'n braf clywed am eu llwyddiannau.
"Rydym am ddiolch i bawb yn yr ysgolion am gefnogi'r dysgwyr trwy eu harholiadau ac hefyd i'w teuluoedd am gefnogi ac annog eu plant trwy gydol eu haddysg.
"Rydym yn annog pob dysgwr i gael cyngor ac arweiniad ar yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt gan gynnwys yr opsiwn i fynd i'r Chweched Dosbarth.
"Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r dysgwyr yn y dyfodol."
I wybod mwy am Chweched Powys, ewch i www.powys6.cymru