Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwahoddiad i fusnesau i ddweud eu dweud ar wefru cerbydau trydan

Image of an electric vehicle charging

26 Awst 2022

Image of an electric vehicle charging
Mae gwahoddiad i fusnesau a sefydliadau ar draws Powys i rannu eu syniadau er mwyn llywio Strategaeth y cyngor ar Wefru Cerbydau Trydan.

Bydd Atkins yn cynnal yr arolwg ar ran Cyngor Sir Powys i archwilio cynlluniau busnes lleol o ran cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan (a adwaenir hefyd fel pwyntiau gwefru), ac os yn berthnasol, cynlluniau ar gyfer trydaneiddio fflydoedd busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddeall faint o fusnesau ym Mhowys sydd eisoes yn defnyddio cerbydau trydan, beth a allai fod yn rhwystro mabwysiadu cerbydau trydan, a beth y gellir ei wneud i oresgyn y rhwystrau hyn.

"Bydd yr ymatebion yn cael eu defnyddio wrth ddatblygu ein strategaeth newydd, a fydd yn rhoi cyfeiriad o ran cyflwyno seilwaith gwefru ar draws y sir yn effeithlon, gan alluogi mabwysiadu a defnyddio cerbydau trydan gan fwy o fusnesau, trigolion ac ymwelwyr"

Mae'r arolwg ar agor tan ddydd Gwener 9 Medi.

I gael dweud eich dweud, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/gwefru-cerbydau-trydan