Angen arweinwyr busnes i sbarduno sgiliau rhanbarthol
31 Awst 2022
Dywedodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a James Gibson-Watts, Arweinydd Cyngor Sir Powys sy'n gyd-gadeiryddion Tyfu Canolbarth Cymru y mae'r RSP yn aelod ohono: "Mae'n gyfnod cyffrous ar gyfer Dysgu a Sgiliau yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn gweithio gydag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad waith er mwyn sbarduno buddsoddiad sy'n bodloni gofynion y cyflogwyr a'r gweithlu."
"Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ysbrydoledig o'r sector preifat â'r cymwysterau addas ganddo i Gadeirio'r grŵp. Person busnes (cwmni preifat) fydd y Cadeirydd hwn, a chanddo fuddiannau busnes yng Nghanolbarth Cymru. Bydd ganddo/ganddi ddiddordeb a dylanwad ar draws sir ac ar lefel is-ranbarthol. Disgwylir mai cyflogwr lleol sylweddol ag effaith ar y gadwyn gyflenwi leol, ranbarthol a chenedlaethol fydd buddiannau busnes y Cadeirydd a disgwylir y bydd modd iddo ddefnyddio'r buddiannau busnes hyn."
Bydd Cadeirydd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Canolbarth Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sbarduno gweledigaeth y rhanbarth ar gyfer dysgu a sgiliau, gan gynrychioli llais y sector preifat yn y rhanbarth er mwyn dylanwadu a chefnogi penderfyniadau rhanbarthol a hyrwyddo'r rhanbarth ar lefel Genedlaethol.
Bydd hyn yn gofyn am unigolyn sy'n gallu dangos:
- Ei fod/ei bod yn Arweinydd yn y Diwydiant, yn enwedig o'r sectorau a nodir yn Gweledigaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Mae modd gweld y weledigaeth ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, http://tyfucanolbarth.cymru/blaenoriaethautwfstrategol
- Gwybodaeth a phrofiad o'r gwahanol sectorau diwydiant yn y Canolbarth;
- Profiad cryf o'r sector preifat;
- Arweinyddiaeth gref ac ethos partneriaeth;
- Dealltwriaeth o'r amgylchedd strategol ehangach ac ystyried hyn wrth gyflwyno argymhellion
Mae'r swydd yn un wirfoddol gydag ymrwymiad o ryw 12 diwrnod y flwyddyn, yn fras.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau'r manylion a amlinellir yn y ffurflen sydd ar dudalen Dogfennau ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, http://tyfucanolbarth.cymru/dogfennau a dychwelyd y ffurflen i aggie.caesar-homden@powys.gov.uk erbyn canol nos, ddydd Llun 5 Medi.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl neu i drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth yr RSP: Aggie Caesar-Homden, aggie.caesar-homden@powys.gov.uk / 01597 826713