Cynghorau'n uno i ddangos cefnogaeth yn Pride Cymru 2022
8 Medi 2022
Bu'r awdurdod yn cymryd rhan yn nigwyddiad Pride Cymru am y tro cyntaf y mis diwethaf, fel rhan o rwydwaith 'Cynghorau Balch', sydd wedi'i gynllunio i alluogi cynghorau ledled y rhanbarth i gydweithio gan hyrwyddo gwasanaethau a chynnig eu cefnogaeth ar yr un pryd.
Teithiodd cynrychiolwyr Cyngor Sir Powys i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad, ynghyd â chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd, Abertawe, Caerffili, Torfaen, a Blaenau Gwent.
Ymunodd staff, cynghorwyr, a grwpiau cymunedol cysylltiedig â channoedd o bobl a orymdeithiodd drwy strydoedd Caerdydd ynghyd i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i'r gymuned LHDT+ yng Nghymru.
Yn ogystal â chynnal baneri Pride, roedden nhw hefyd yn bresennol ar y stondin Cynghorau Balch i annog ymwelwyr i drafod sut y gall cynghorau wella materion fel darparu gwasanaethau, mynediad a chynhwysiant ac atal gwahaniaethu yn erbyn trigolion a gweithwyr.
Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Tecach: "Mae'n wych gweld Cyngor Sir Powys yn mynychu digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd am y tro cyntaf eleni.
"Rwy'n hynod falch fy mod wedi bod yno yn cynrychioli Powys ochr yn ochr â llawer o bobl eraill o'r Cyngor ac o bob cwr o Gymru, a hynny o dan faner rhwydwaith y 'Cynghorau Balch'.
"Roedd yn wych mynychu a dangos ein hymrwymiad a'n cefnogaeth i'r gymuned LGBT+ yng Nghymru."