Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datganiad am Ddyrchafiad

Image of the High Sheriff reading the proclamation

11 Medi 2022

Image of the High Sheriff reading the proclamation
Darllenwyd y datganiad sirol am ddyrchafiad Ei Fawrhydi, y Brenin gan Uchel Siryf Powys, Mr Tom Jones, OBE yn Neuadd y Sir, Llandrindod y prynhawn hwn.

Dilynwyd hyn gan seremonïau tebyg yn Neuadd y Dref Aberhonddu, Neuadd y Sir yn Llanandras a Neuadd y Dref y Trallwng.

Gallwch ddarllen araith llawn proclamasiwn y sir yma:

 

FFURF AR BROCLAMASIWN AR GYFER DATGAN Y SOFRAN NEWYDD YN Y DEYRNAS UNEDIG

Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw i'w Ofal ein diweddar Sofran, yr Arglwyddes Frenhines Elizabeth yr Ail, o Fendigaid a Gogoneddus Goffadwriaeth, y mae Coron Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, oblegid ei Hymadawiad, wedi dod yn gwbl ac yn gyfiawn i ran y Tywysog Charles Philip Arthur George: Yr ydym ninnau, felly, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol y Deyrnas hon ac Aelodau o Dŷ'r Cyffredin, ynghyd ag aelodau eraill o Gyfrin Gyngor Ei diweddar Fawrhydi, cynrychiolwyr y Teyrnasoedd a'r Tiriogaethau, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain, ac eraill, yn awr yn datgan ac yn cyhoeddi drwy hyn yn unllais ac o Galon a Thafod unfryd fod y Tywysog Charles Philip Arthur George, bellach, oblegid Marwolaeth ein diweddar Sofran o Serchus Goffadwriaeth, wedi dod inni yn unig gyfreithlon a chyfiawn Ddyledog Arglwydd Charles y Trydydd, drwy Ras Duw, ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i Deyrnasoedd eraill, yn Frenin, yn Ben ar y Gymanwlad, yn Amddiffynnwr y Ffydd, i'r hwn yr ydym yn datgan, ag Anwylserch gostyngedig, ein holl Ffydd a'n Hufudd-dod; gan atolwg ar i Dduw, drwy'r hwn y mae Brenhinoedd a Breninesau yn teyrnasu, fendithio Ei Fawrhydi â hir Oes hapus i deyrnasu drosom.

Rhoddwyd ym Mhalas St. James y degfed dydd o fis Medi ym mlwyddyn Ein Harglwydd dwy fil a dwy ar hugain.

DUW A GADWO'R BRENI