Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Crynodeb o'r Ymatebion (Llanidloes)

Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus mewn perthynas â'r adolygiad arfaethedig o Waharddiadau Aros a Llwytho Ar y Stryd yn Llanidloes.

Cafodd y gwrthwynebiadau eu hystyried yn briodol gan yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys  Wyrddach a gwnaed y penderfyniad ar 1 Chwefror 2024 i wrthod rhai gwrthwynebiadau, ac i gynnal yn rhannol y gwrthwynebiadau a sylwadau eraill ac addasu cynigion y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn unol â hynny.

Gellir gweld papurau a phenderfyniadau aelodau'r cabinet yma https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=936&MId=8411&Ver=4

Gellir gweld cynlluniau'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig cymeradwy terfynol yma https://powys.moderngov.co.uk/documents/s84644/Decision%20plans-%20Final%20TRO%20Plans%20Jan%202024.pdf

Bydd yr awdurdod priffyrdd yn gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig newydd cyn gynted â phosibl.