Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Tîm Asiantaeth Gwerthu a Gosod Tai Safonau Masnach Cenedlaethol (NTSELAT) Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal Tîm Asiantaeth Gwerthu a Gosod Tai Safonau Masnach Cenedlaethol (NTSELAT) ar y cyd â Chyngor Dinas Bryste.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Mae hyn yn adlewyrchu eu penodiad fel awdurdod gorfodi arweiniol (LEA) o dan Ddeddf Asiantau Tai 1979, a Deddf Ffioedd Tenantiaid 2019, yn y drefn honno. Bydd gwaith yr LEAfel tîm sengl gydag adnoddau a data a rennir sy'n ymwneud â'r sector Asiantaeth Tai Gosod Tai yn cael ei rannu a'i brosesu rhwng y ddau awdurdod lleol. Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych am sut mae NTSELAT yn casglu a defnyddio data personol mewn cysylltiad â'n gwasanaeth.

Pa ddata personol sy'n cael eu casglu?

I gyflawni ein swyddogaethau, gall yr NTSELAT brosesu'r canlynol :

  • Manylion personol (gan gynnwys pethau fel eich Enw, Cyfeiriad, Dyddiad Geni, Rhif Yswiriant Gwladol)
  • Manylion ariannol
  • Manylion cyflogaeth
  • Gweithgareddau busnes a gwybodaeth (gan gynnwys aelodaeth broffesiynol o gymdeithasau masnach, cynlluniau gwneud iawn, diogelu arian cleientiaid, a chynlluniau adneuo)
  • Gwybodaeth ffeil achos
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig)
  • Achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
  • Achosion sifil a chanlyniadau.

Sut rydym yn defnyddio eich data personol?

Mae NTSELAT yn casglu ac yn defnyddio data personol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel yr awdurdod gorfodi arweiniol, ac wrth weithredu unrhyw rwymedigaeth, pŵer, neu ddyletswydd fel y mae'n ymwneud â gwaith asiantaeth gwerthu a gosod eiddo, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Monitro a hyrwyddo cydymffurfiad a deddfwriaeth Safonau Masnach a Tai perthnasol yn unol â'n polisi gorfodi.
  • Atal, ymchwilio, canfod, neu orfodi troseddau; neu weithredu cosbau perthnasol yn genedlaethol ac yn lleol, gan gynnwys drwy rannu gwybodaeth. Cyn belled â bod swyddogaeth statudol gennym i orfodi'r ddeddfwriaeth dan sylw, mae hyn yn ddiben "gorfodi'r gyfraith" o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ac mae rhai cyfyngiadau ar eich hawl i gael mynediad at wybodaeth yn berthnasol.
  • Cynghori a chefnogi defnyddwyr, busnesau, diwydiant, llywodraeth, ac awdurdodau lleol.
  • Cynnal a chyhoeddi cofrestr gyhoeddus o orchmynion perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Asiantau Tai 1979.

Pa sail gyfreithiol rydyn ni'n dibynnu arni i brosesu eich data personol?

O ystyried y pwyntiau a wnaed uchod, mae'r NTSELAT yn dibynnu ar Erthygl 6 (e) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) sef bod y prosesu'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi ei freinio yn y rheolwr.
I brosesu data personol categori arbennig (data personol sensitif) mae'r NTSELAT yn dibynnu ar Erthygl 9, paragraff 2 (g), am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol yn unol â'r amserlen cadw corfforaethol ar gyfer Cyngor Sir Powys.

Gyda phwy fyddwn ni'n rhannu eich data personol ?

Gellir rhannu data personol gydag adrannau eraill yn a rhwng Cyngor Dinas Bryste a Chyngor Sir Powys a thrydydd partïon perthnasol, gan gynnwys Safonau Masnach awdurdodau lleol a gwasanaethau rheoleiddio eraill.
Dim ond lle mae pyrth cyfreithiol yn caniatáu hynny, a lle mae'r rhannu'n angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion cyfreithlon y bydd rhannu data'n digwydd. Byddwn ni'n asesu effaith unrhyw ddatgelu ac yn gwneud penderfyniadau fesul achos oni bai bod cytundeb rhannu data ffurfiol ar waith sy'n caniatáu fel arall.

Eich hawliau fel testun y data

Mae gennych hawl i ofyn am fynediad i'ch data a, lle gwelir bod data'n anghywir, i gael y data hwnnw wedi'i gywiro. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i gael data a gedwir amdanoch wedi'i ddileu, neu gyfyngu ar y defnydd ohoni. Efallai y byddwch yn gallu gwrthwynebu prosesu a gall fod gennych hefyd yr hawl i drosglwyddo eich data i reolwr data arall.

Gallwch arfer unrhyw rai o'ch hawliau drwy gysylltu â:

Cyngor Sir Powys
Swyddog Diogelu Data
Diogelwch Gwybodaeth
Neuadd Sir Powys
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
information.compliance@powys.gov.uk

Cyngor Dinas Bryste

Data Protection Officer
Bristol City Council
City Hall
PO Box 3399
BS3 9FS
data.protection@bristol.gov.uk

Os ydych yn meddwl ein bod wedi delio â'ch gwybodaeth yn amhriodol neu'n anghyfreithlon, mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF neu https://ico.org.uk/
Awst 2022

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu