Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canol trefi yng nghanolbarth Cymru i elwa o nawdd Creu Lleoedd ychwanegol

Image of Newtown high street

20 Medi 2022

Image of Newtown high street
Bydd nawdd Grant Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarth canolbarth Cymru yn gweld buddsoddiad o £5.08 miliwn i helpu adfywio canol trefi Powys a Cheredigion dros y tair blynedd nesaf.

Fel rhan o raglen adfywio Trawsnewid Trefi ehangach, bwriad y Grant Creu Lleoedd yw cynnig cefnogaeth eang a hyblyg i amrywiaeth helaeth o brosiectau gyda'r nod o adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.

Gall prosiectau a all fod yn gymwys am gefnogaeth grant amrywio o ddatblygu eiddo masnachol a phreswyl, datblygu marchnadoedd canol trefi, gwella mannau awyr agored cyhoeddus a rennir, a gosod a manteisio ar seilwaith digidol. Bydd angen i brosiectau arddangos cysylltiadau gyda chynlluniau trefi a dangos sut y byddant o fantais i ganol trefi.

"Mae'r nawdd creu lleoedd a dderbyniwyd y llynedd eisoes wedi cael ei roi at ddefnydd da wrth wneud gwelliannau" esboniodd y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. "Dyfarnwyd grantiau i nifer o fusnesau a sefydliadau i'w helpu i wneud newidiadau i gynorthwyo adferiad canol trefi wedi covid.

"Roedd ein sylw'n bendant ar gefnogi canol ein trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau'n ddiogel ac yn gydnerth, nawr ac i mewn i'r dyfodol. Bydd y chwistrelliad newydd hwn o fuddsoddiad yn mynd hyd yn oed pellach i sicrhau fod ein trefi prydferth yng nghanolbarth Cymru yn cael bywyd newydd ac yn parhau i fod yn lleoedd ffynniannus i fyw, gweithio ac ymweld â hwy."

Dywedodd y Cyng. Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Mae'r Grant Creu Lleoedd yn gyfle gwych i randdeiliaid preifat a chyhoeddus i gael mynediad at gronfeydd i fod yn gatalydd ar gyfer newid yng nghanol ein trefi led led canolbarth Cymru, i wneud gwelliannau yn eu synnwyr unigryw o le ac i greu cymunedau cynaliadwy yn gymdeithasol ac yn economaidd."

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd: "Rydym yn ymroddedig i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn lleoedd hyd yn oed gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. Mae'r Grant Creu Lleoedd yn helpu i adfywio calonnau'r cymunedau lleol hyn.

"Mae canol trefi yn wynebu nifer o heriau sydd ond wedi gwaethygu gan y pandemig, a'n blaenoriaeth yw sicrhau eu bod yn ffynnu a'u hamddiffyn yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.

"Rydym wedi gallu cefnogi nifer o brosiectau ardderchog yng nghanolbarth Cymru, gan gynnwys adnewyddu eiddo yng nghanol tref Aberystwyth a thrawsnewid hen fanc yn Y Trallwng."

Mae'r Grant Creu Lleoedd ar gael i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau'r trydydd sector, a'r sector cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i ymgeisio, edrychwch ar:

https://www.tyfuymmhowys.com/trawsnewid-trefi

https://www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-creu-lleoedd-trawsnewid-trefi