Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Bro Hyddgen

Image of Ysgol Bro Hyddgen

21 Medi 2022

Image of Ysgol Bro Hyddgen
Cyhoeddodd y cyngor sir bod y Cabinet i ystyried cynlluniau newydd ar gyfer adeilad newydd mewn ysgol pob oed yng ngogledd Powys.

Mae Cyngor Sir Powys wedi bwriadu darparu adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen, ysgol pob oed ym Machynlleth, ers 2017.

Ym mis Tachwedd 2020, cafodd Achos Amlinellol Strategol ac Achos Busnes Amlinellol cyfunol y cyngor ar gyfer campws dysgu a hamdden ar gost o ryw £48m, eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru gan olygu bod y cyngor wedi gallu bwrw ymlaen i gyflwyno Achos Busnes Llawn y prosiect.

Ond o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol, nid yw'r cynlluniau hyn bellach yn fforddiadwy.

Yr opsiwn a ffefrir gan y cyngor erbyn hyn yw adeiladu ysgol pob oed newydd i 540 o ddysgwyr ar safle ysgol uwchradd Ysgol Bro Hyddgen yn lle adeiladau presennol yr ysgol gynradd ac uwchradd.

Mae wedi llunio Achos Busnes Amlinellol / Achos Amlinellol Strategol newydd i ddatblygu ysgol pob oed newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen a bydd y Cabinet yn trafod hyn ar ddydd Mawrth, 11 Hydref.

Bydd yr opsiwn hwn yn cynnwys cyflusterau blynyddoedd cynnar, ystafell gymunedol, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd llesiant ynghŷd ag ardaloedd awyr agored a chae 3G.

Fe allai'r cynllun gynnwys lle ar gyfer llyfrgell gyhoeddus pe bai angen.  Byddai hyn yn destun ymgysylltu â'r cyhoedd.

Bydd gan yr adeilad nodweddion amgylcheddol gwych a hwn fydd adeilad Passivhaus pob oed cyntaf y cyngor, gyda'r nod o gyrraedd sero net a gyda tharged o <800kg/CO2m2 carbon.

Ni fydd yr opsiwn hwn yn cynnwys cyfleusterau hamdden a fydd yn parhau o Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi, ond yr argymhelliad i'r Cabinet yw bod y cyngor yn chwilio am arian ychwanegol o ffynonellau eraill i gefnogi canolfannau hamdden ar draws y sir, gan gynnwys Canolfan Hamdden Bro Ddyfi.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen ond erbyn hyn, nid yw'r cynlluniau blaenorol am gampws dysgu a hamdden bellach yn fforddiadwy.

"Rydym wedi cynnal arolwg o gostau'r campws dysgu a hamdden gwreiddiol, sydd erbyn hyn wedi cyrraedd tua £66m.  Mae hyn yn golygu na allwn fforddio'r cynllun gwreiddiol hyn o fewn amlen ariannu Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (hen Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif).

"Rydym yn credu y bydd yr opsiwn newydd yn darparu cyfleusterau addysgol rhagorol i'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.  Mae hwn yn opsiwn fforddiadwy o fewn y cyllid sydd ar gael i ni, ac yn diogelu'r buddsoddiad sydd ar y gweill ar safleoedd ysgolion eraill yn y sir."

Bydd y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau yn ystyried yr adroddiad ar Brosiect Cyfalaf Ysgol Bro Hyddgen ddydd Mercher 28 Medi.