Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn cynnal diwrnod agored

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng from the air

3 Hydref 2022

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng from the air
Bydd rhieni yn ardal Y Trallwng sy'n ystyried addysg ddwyieithog i'w plentyn yn cael cyfle i fynd ar daith o amgylch yr ysgol Gymraeg newydd sy'n cael ei hadeiladu yn y dref.

Mae Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng, a fydd yn cynnwys blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol.

Mae'r ysgol wedi trefnu diwrnod agored ddydd Gwener, 14 Hydref lle bydd cyfle i fynd o amgylch adeilad newydd yr ysgol yn ogystal â siarad gyda rhieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i'w plentyn. Bydd arweinwyr yr ysgol hefyd yn egluro'r manteision a'r profiadau y gall addysg Gymraeg eu cynnig.

Mae'r diwrnod agored, fydd yn cael ei gynnal rhwng 1:30-4pm, wedi'i anelu at rieni sydd â phlant yn dechrau yn yr ysgol gynradd ym mis Medi 2023 ac sy'n ystyried addysg Gymraeg.

Nid oes nifer fawr o leoedd ar gael felly mae angen archebu ymlaen llaw.  I gadw eich lle ar y diwrnod agored, cysylltwch ag Ysgol Gymraeg Y Trallwng trwy anfon e-bost i pennaeth@trallwng.powys.sch.uk neu ffoniwch 01938 552005.

Mae'r ysgol newydd, sy'n cael ei hadeiladu gan Wynne Construction, yn cyfuno'r hen a'r newydd a bydd yn darparu disgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymuned y Trallwng â chyfleusterau gwych tra'n cynnal presenoldeb ysgol eiconig Ysgol Maesydre.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol o addysg ym Mhowys ac rydym am gynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn y sir, a'r rhai sy'n symud i'r sir, i fod yn gwbl ddwyieithog.

"Mae'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn brosiect pwysig i'n helpu i gyflawni hyn ac i helpu i gyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

"Rwy'n falch iawn bod y diwrnod agored hwn wedi cael ei drefnu oherwydd bydd yn rhoi cyfle gwych i rieni sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'w plentyn weld yr ysgol newydd ac i glywed gan rieni ac athrawon yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn sôn am y manteision a'r profiadau y gall addysg cyfrwng Cymraeg eu cynnig."

Dywedodd Angharad Davies, Pennaeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng: "Ar draws Cymru mae mwy a mwy o rieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant er mwyn iddynt ddod yn ddwyieithog ac yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Er nad oes angen i rieni allu siarad Cymraeg er mwyn i'w plant fynychu addysg Gymraeg, rydym yn deall y bydd gan rieni lawer o gwestiynau am addysg Gymraeg a sut y bydd ysgolion yn eu cefnogi yn ogystal â'u plant.

"Mae'r diwrnod agored hwn yn gyfle gwych i glywed gan staff a rhieni am addysg Gymraeg a'r manteision y gall addysg ddwyieithog ei darparu."

Am ragor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith