Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sgamwyr cynllun cymorth biliau ynni

A screenshot of a scam text message

5 Hydref 2022

A screenshot of a scam text message
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgamwyr sy'n cynnig ad-daliad ynni.

Mae adroddiadau am negeseuon e-bost a thestun gan sgamwyr ar gynnydd, gyda negeseuon ffug yn honni i fod am ad-daliadau ynni gan Ofgem y rheoleiddiwr ynni annibynnol neu Lywodraeth y DU. 

Mae'r negeseuon yn honni bod gan dderbynnydd y neges yr hawl i gael ad-daliad ynni neu fil ynni llai fel rhan o gynllun y llywodraeth gan gynnig dolenni y dylai'r derbynnydd eu dilyn i wneud cais am yr ad-daliad.  Mae'r dolenni yn eich tywys i wefannau maleisus sydd wedi'u dylunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.

"Mae'n drist iawn i weld sgamwyr yn ceisio gwneud arian o'r argyfwng costau byw gyda'r negeseuon hyn," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach. "Mae'r rhain yn cael eu hanfon yn ystod cyfnod pan mae'r rhan fwyaf o bobl yn disgwyl derbyn rhywbeth dilys am gymorth gyda'u biliau ynni, felly maen nhw'n fregus iawn i'r math yma o dwyll ar hyn o bryd.

"Cofiwch i fod yn wyliadwrus o'r twyllwyr yma, sydd wastad yn edrych am ffyrdd i gymryd mantais o unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.  Cofiwch i wirio'n drylwyr cyn clicio ar ddolen mewn e-bost neu neges destun, neu cyn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol."

Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio'r rhifau neu gyfeiriad yn y neges - defnyddiwch y manylion o'u gwefan swyddogol.  

Cofiwch, ni fydd eich banc (neu unrhyw ffynhonnell swyddogol arall) yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol drwy e-bost neu neges destun.

I gael rhagor o gyngor am sut i gadw'n ddiogel ar-lein ewch i: www.cyberaware.gov.uk a rhowch wybod am unrhyw ymdrechion i dwyllo yn www.actionfraud.police.uk.

Bydd y disgownt ynni £400 nad oes angen ei ad-dalu oddi wrth Llywodraeth y DU yn cael ei dalu mewn chwe rhan-ddaliad, gyda chartrefi yn gweld £66 yn cael ei dynnu oddi ar eu biliau ynni ym mis Hydref a Thachwedd, a £67 y mis o fis Rhagfyr i Fawrth 2023. 

Bydd yr arian yn cael ei dalu mewn dulliau gwahanol, yn dibynnu ar sut ry'ch chi'n talu eich bil 

  • Os ydych wedi trefnu debyd uniongyrchol, neu'n talu gyda cherdyn, bydd yr arian yn cael ei gredydu'n awtomatig i'ch cyfrif ynni, gan leihau'r hyn sydd angen i chi dalu.
  • Bydd cwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu 'clyfar' yn cael yr arian wedi'i roi ar eu mesurydd bob mis, fel na fydd rhaid iddyn nhw ychwanegu cymaint o gredyd ar eu mesurydd. 
  • Bydd y rhai sydd â dyfeisiau rhagdalu traddodiadol nad ydynt yn rhai clyfar yn derbyn un ai 'Negeseuon Gweithredu Arbennig' neu dalebau o'u cyflenwr yn ystod yr wythnos gyntaf o bob mis, drwy neges destun, e-bost neu yn y post.

Gellir defnyddio'r talebau mewn mannau 'top-up', megis swyddfa bost leol, a bydd y disgownt yn cael ei gredydu i'r allwedd mesuryddion. Mae'n bwysig felly bod gan eich cyflenwr eich manylion cyswllt cyfredol a mwyaf diweddar.

LLUN: Sgrïnlun o neges destun gan sgamwyr a dderbyniwyd gan aelod o staff Cyngor Sir Powys, yn dangos pa mor realistig y gall y seibr-droseddwyr wneud iddyn nhw edrych.