Rhaglen ganser yn cefnogi ymgyrch gerdded
5 Hydref 2022
Mae'r cynnig a'r neges y gallwch ei "gerdded" yn cael eu cefnogi gan y rhaglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys - rhaglen wedi'i hariannu gan Macmillan - sy'n cefnogi pobl yn ystod eu taith ganser.
Bob wythnos bydd rhywun sy'n rhan o'r rhaglen yn ymuno â parkwalk a byddant wrth law i sgwrsio gyda phobl sy'n byw gyda chanser naill ai yn ystod neu ar ôl y daith gerdded yng nghaffi'r Strand lleol.
Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai oedd y cyntaf i ymuno â'r daith gerdded ddydd Sadwrn 1 Hydref ynghyd â Liz Towns o Ymddiriedolaeth Bracken. Mae Liz fel arfer yn rhedeg y cwrs bob wythnos ond fe fydd yn ei gerdded drwy gydol y mis. Hefyd yn bwriadu ymuno y mae'r Cynghorydd Sian Cox, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Gofalgar a Sharon Healey, y cysylltydd cymunedol lleol ar gyfer PAVO.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox:"Bydda i'n cerdded y daith parkrun yn Llanfair-ym-Muallt ar 22 Hydref, gyda fy nghi, ac unrhyw un arall a fyddai'n hoffi cerdded gyda ni. O fy mhrofiad personol, rwy'n gwybod sut mae cerdded, anadlu awyr iach ac yn enwedig cysylltu â byd natur, yn gwella lles. Hefyd, mae ei gwneud yn gyson yn arwain at bethau sy'n gwneud i chi deimlo'n well - ffitrwydd, bod yn iachach, cryfder, cysylltu â phobl eraill - a hefyd yn eich helpu i osgoi pethau sy'n gwneud i chi deimlo'n isel - anffitrwydd, diflastod, unigrwydd. Dwi wastad yn barod i fynd am dro - unrhyw le, mewn unrhyw dywydd!
Aeth ymlaen i ychwanegu: "Dwi'n edrych ymlaen at gwrdd â phobl eraill sydd eisiau dangos eu cefnogaeth ar gyfer Gwella'r Daith Ganser, ac yn arbennig, unrhyw un sydd eisiau siarad â fi am fyw gyda chanser yn ein sir wledig. Rwy'n gobeithio gan fod mis Hydref wedi'i dynodi'n fis "Cer Amdani i Gerdded" y bydd mwy o bobl yn rhoi dro ar gerdded, yn caru cerdded ac yn gwneud mwy o gerdded. Gall bob mis fod yn fis 'Cer Amdani i Gerdded - hyd yn oed yng Nghymru lawiog!"
Dywedodd Lee Jarvis, trefnydd Llanfair-ym-Muallt: "Nid oedd 'parkrun' erioed wedi ei fwriadu i fod yn wahoddiad i redeg y cwrs yn unig. Mae llawer o bobl yn mwynhau ac eisoes yn cerdded llwybr y Groe, ond gyda'n dathliad pen-blwydd yn 18 oed roeddem yn teimlo y byddai mis Hydref yn fis perffaith i atgoffa pobl bod yna groeso iddyn nhw ddod draw i gerdded y llwybr. Gall cerdded helpu pobl i reoli eu cyflyrau iechyd ac mewn rhai achosion eu hatal yn ogystal â gwella ein hwyliau a rhoi hwb i'n lefelau ffitrwydd. Mae gennym hefyd ein henwog Stan sy'n cerdded y llwybr ac sy'n gorffen ar y cefn bob wythnos ac yn sgwrsio â thrigolion sy'n dymuno symud yn fwy hamddenol ar fore Sadwrn. Bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol gofrestru (un tro yn unig). Mae cofrestru yn rhad ac am ddim a dim ond unwaith sydd angen ei gwneud, p'un a ydych yn bwriadu cerdded, jogio, rhedeg, neu wirfoddoli neu wneud cyfuniad o'r holl bethau hyn!"
Cofrestrwch yma: https://www.parkrun.org.uk/register/
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma https://www.parkrun.org.uk/
Dywedodd Dr Ruth Corbally, Meddyg Teulu Arweiniol Canser Powys: "Mae'r ymgyrch 'parkwalk' ar gyfer mis Hydref yn cysylltu'n berffaith gydag ethos ein rhaglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys, sef rhaglen i helpu pobl sy'n byw gyda chanser i gael mynediad at gymorth, gwybodaeth a chyngor ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn agosach at eu cartrefi. I rai pobl sy'n byw gyda chanser, p'un ai ydyn nhw'n aros am ganlyniadau profion, ar fin mynd i mewn i gael triniaeth neu ar ddiwedd eu llwybr triniaethau, gallai taith gerdded yn yr awyr iach ar fore Sadwrn fod yn bositif iawn ac yn help i wella eu lles."
Gall trigolion sy'n byw gyda chanser gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy'r rhaglen trwy fynd i'w gwefan: https://www.powysrpb.org/icjpowys