Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor ar ynni i'r cartref

Utility bills icon

Advicelink Cymru: Os nad ydych chi'n siŵr pa gymorth sydd ar gael i chi, gall Advicelink Cymru eich helpu i ddarganfod beth sydd ar gael a sut i hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi.

Age Cymru Powys: Mae gwiriadau ynni cartref am ddim yn cael eu cynnig i bobl dros 65 oed. Rhif Ffôn: 01686 623707

Cynllun Arbed Ynni Powys: Cynllun arloesol i Arbed Ynni ym Mhowys wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon drwy fabwysiadu dull ac ateb 'tŷ cyfan'

Cyfrifiannell Ynni Cyngor ar BopethGallwch ganfod pa gyfarpar ac offer yn eich cartref sy'n defnyddio'r mwyaf a'r lleiaf o ynni.

Energy Advocate in Powys - Severn Wye:i ofyn am cefnogaeth cyfrinachol am ddim gan gynghorydd ynni yn eich ardal.

Help for Households:  Gwefan llywodraeth y DU yw 'Help for Households' gyda gwybodaeth ar dorri biliau ynni, effeithlonrwydd ynni a grantiau. Rhif Ffôn: 0800 098 7950.

Ymddiriedolaeth Arbed YnniAwgrymiadau a chyngor cyflym ar sut i arbed ynni, lleihau eich biliau a gostwng eich ôl troed carbon.

MoneySavingExpertGwefan ddefnyddiol sy'n cynnwys cyngor ac awgrymiadau ar arbed ynni a thorri costau.

NythMae'r cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor di-duedd, am ddim ac os ydych yn gymwys, gall pecyn am ddim o welliannau effeithiolrwydd ynni i'r cartref megis boeler, gwres canolog, inswleiddiad, neu baneli solar fod ar gael. 

Rhentu Doeth Cymru: Ydych chi'n byw mewn eiddo rhent neu'n berchen un sy'n cael ei reoleiddio gan Rhentu Doeth Cymru? Gallai'r Gronfa Cartref Cynnes ddarparu uwchraddiadau gwresogi ar gyfer cartrefi aneffeithlon ac anodd eu gwresogi. Os oes gennych gwestiynau, ffoniwch 03000 133344.

RHYBUDD: Mae adroddiadau ar gynnydd am sgamiau e-bost, negeseuon testun a galwadau ffôn, gyda chyfathrebiadau ffug yn honni'n aml i fod ynghylch ad-daliadau ynni, ad-daliadau trethi neu fuddion ariannol eraill. Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio'r rhifau neu'r cyfeiriad yn y negeseuon - defnyddiwch y manylion oddi ar eu gwefan swyddogol. Am ragor o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, edrychwch ar: www.cyberaware.gov.uk ac adrodd am ymdrechion i dwyllo ar www.actionfraud.police.uk

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.