Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cefnogaeth i fusnesau

Help for business icon

Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni: help i fusnesau a chwsmeriaid annomestig eraill:Bydd y cynllun hwn yn darparu gostyngiad bil ynni i gwsmeriaid annomestig ym Mhrydain Fawr. Bydd gostyngiadau'n cael eu cymhwyso i ddefnydd o ynni yn y lle cyntaf rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023. 

PAVO - Cymorth i sefydliadau: Gallwn helpu eich sefydliad trwy gefnogaeth tîm Datblygu PAVO. Rydym yn cynnig gwybodaeth am gyllid, cymorth digidol, hwb gwybodaeth, meithrin gallu ar gyfer y 3ydd sector, cyrsiau hyfforddi a llawer mwy.

●     Oriau agor: 10am - 4pm

●     Ffôn: 01597 822191

Rhentu Doeth Cymru: Ydych chi'n byw mewn eiddo rhent neu'n berchen un sy'n cael ei reoleiddio gan Rhentu Doeth Cymru? Gallai'r Gronfa Cartref Cynnes ddarparu uwchraddiadau gwresogi ar gyfer cartrefi aneffeithlon ac anodd eu gwresogi. Os oes gennych gwestiynau, ffoniwch 03000 133344.

Gallwch gael gostyngiad ar eich trethi busnes. Gallwch ddod o hyd i'r gostgyniadau sydd ar gael - a darganfod a fyddai eich busnes yn gallu gwneud cais: Darganfod a oes modd ichi gael gostyngiad Trethi Busnes

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.