Cefnogaeth gyda biliau cyfleustodau eich cartref
Band eang a biliau ffôn:Os ydych yn bryderus am dalu eich bil band eang neu ffôn symudol, dylech gysylltu â'ch cyflenwr, gan y byddant yn gallu llunio cynllun talu neu roi cefnogaeth arall ar waith i'ch helpu i barhau wedi cysylltu.
Cynllun cymorth tanwydd Cymru: Cymorth Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd â'r pwysau ar gostau byw.
Taliadau Tywydd Oer: Efallai y byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu Gefnogaeth ar gyfer Llog Morgais. Fe fyddwch yn cael taliad os yw'r tymheredd cyfartalog yn eich ardal wedi'i gofnodi, neu fod rhagolygon y bydd yn cael ei gofnodi, fel sero gradd celsius neu is dros saith diwrnod yn olynnol.
Gostyngiadau Treth y Cyngor:Os yw eich cartref ar incwm isel, gallech dderbyn cefnogaeth tuag at ychydig neu'r cyfan o'ch bil Treth y Cyngor trwy'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.
Cronfa Cymorth Dewisol:Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig taliadau, neu gefnogaeth mewn nwyddau, i bobl sydd angen cymorth ar frys a lle mae angen wedi'i ddynodi i ddiogelu iechyd a lles. Bydd taliadau'n cael eu gwneud i bobl nad oes gydag unrhyw ffyrdd arall o dalu a diwallu costau byw di-oed. Nid eu bwriad yw talu costau treuliau sydd ar fynd.
Grant Anghenion Pob Dydd:Gall aelodau'r gymuned Lluoedd Arfog sy'n straffaglu gyda'u biliau tanwydd ymgeisio am grantiau ynni atodol brys newydd o hyd at £200 y mis gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol.
Help gyda biliau dŵr:Os ydych yn cael anhawster talu am eich bil dŵr, dylech gysylltu â'ch cyflenwr, a fydd yn gallu cynnig cyngor:
Dwr Cymru Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PDF) [283KB]
Taliad Tanwydd y Gaeaf: Os y ganed chi cyn neu ar 25 Medi 1956, gallech gael rhwng £250 a £600 i'ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Mae hyn yn cael ei adnabod fel 'Taliad Tanwydd y Gaeaf'.
Cynllun Cefnogi Biliau Ynni Llywodraeth y DU:Mae'r Cynllun Cefnogi Biliau Ynni yn darparu gostyngiad o £400 neu £200 nad yw'n ad-daladwy i gartrefi cymwys i helpu gyda'u biliau ynni dros aeaf 2022 i 2023.
RHYBUDD: Mae adroddiadau ar gynnydd am sgamiau e-bost, negeseuon testun a galwadau ffôn, gyda chyfathrebiadau ffug yn honni'n aml i fod ynghylch ad-daliadau ynni, ad-daliadau trethi neu fuddion ariannol eraill. Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio'r rhifau neu'r cyfeiriad yn y negeseuon - defnyddiwch y manylion oddi ar eu gwefan swyddogol. Am ragor o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, edrychwch ar: www.cyberaware.gov.uk ac adrodd am ymdrechion i dwyllo ar www.actionfraud.police.uk
Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.