Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Iechyd a Lles

Wellness Icon

Byw Heb Ofn:Yn darparu help a chyngor am drais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol. Ffôn: 0808 80 10 800

C.A.L.L:Yn cynnig gwasanaeth cefnogaeth a gwrando cyfrinachol. Ffôn: 0800 132 737

Gwasanaeth Cymorth yn y CartrefMae Cymorth yn y Cartref yn wasanaeth cymorth ac atal cynnar i ddinasyddion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol y gallai fod eu hangen ar unigolyn yn ei fywyd o ddydd i ddydd i fyw gartref yn hyderus, mewn iechyd da, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Cymorth yn y Cartref Dwyrain Mesyfed:

  • 9am - 5pm
  • 01544 260360
  • East Radnorshire Care Ltd, Old School, Heol Scottleton, Llanandras, LD8 2BL

Cymorth yn y Cartref Rhaeadr a Llandrindod  a Llanidloes:

  • 8:30am - 5:30pm
  • 01597 810432
  • Cyngor Sir Powys, Canolfan Hamdden Rhaeadr, Stryd y Gogledd, Rhaeadr,  LD6 5BU

Helpwch Ni i'ch Helpu Chi: Mae sawl ffordd o gael y gofal GIG cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.

Hwb Costau Byw BIAP GIG: Gwiriwch pa help allech chi ei gael i dalu am gostau'r GIG.

Men's Sheds Cymru:Mae Men's Sheds Cymru yn hyrwyddo iechyd a lles dynion i'w helpu i geisio cael ffordd o fyw mwy difyr, iachus, positif ac actif.

Cyngor Ariannol ac Iechyd Meddwl:Cyngor a chefnogaeth ymarferol eglur i bobl sy'n profi anawsterau gydag iechyd meddwl ac arian.

Mind Cymru:Mae Mind yn darparu cyngor a chefnogaeth a'i nod yw grymuso unrhyw un sy'n profi anhawster iechyd meddwl. Ffôn: 0300 123 3393.

PAVO: PAVO yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys sy'n cefnogi'r trydydd sector ym Mhowys. Maent yn cynnig gwasanaethau a gwybodaeth all gefnogi unigolion i wella eu hiechyd a'u lles.

PAVO Gwasanaeth Cysylltwyr CymunedolGall Cysylltwyr Cymunedol PAVO eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i'ch cefnogi. Byddwn yn gweithio gyda chi i gael mynediad at y gwasanaethau, cefnogaeth a gwybodaeth leol sy'n gywir. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gymorth ar gyfer gwiriadau budd-daliadau, trafnidiaeth, cymorth prydau bwyd, mannau cynnes lleol, llesiant, tai, unigrwydd, gweithgareddau cymunedol, a llawer mwy

●     Oriau agor: 10am - 4pm

●     Ffôn: 01597 828649

●     Ebostiwch ni - community.connectors@pavo.org.uk

Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys: Mae Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys yn canolbwyntio ar wybodaeth iechyd meddwl leol. Rydyn ni'n rhannu straeon a phrofiadau. Gallwn eich cysylltu â chymorth lleol a chenedlaethol. Rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Iechyd Meddwl trwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a blogiau.

●     Oriau agor: 10am - 4pm

●     Ffôn: 01686 628300 or 01597 822191

●     Ebostiwch ni mentalhealth@pavo.org.uk.

Cynllun Cyfeillio Powys: Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys gan PAVO yn cefnogi pobl dros 50 oed sy'n byw ym Mhowys i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, magu hyder, datblygu eu rhwydwaith cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned, neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.

●     Oriau agor: 10am - 4pm

●     Ffôn: 01597 822191

●     Ebostiwch ni pbs@pavo.org.uk

PAVO - Cymorth i sefydliadau: Gallwn helpu eich sefydliad trwy gefnogaeth tîm Datblygu PAVO. Rydym yn cynnig gwybodaeth am gyllid, cymorth digidol, hwb gwybodaeth, meithrin gallu ar gyfer y 3ydd sector, cyrsiau hyfforddi a llawer mwy.

●     Oriau agor: 10am - 4pm

●     Ffôn: 01597 822191

Samariaid: Cefnogaeth emosiynol i'r rheini sy'n profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y teimladau hynny a allai arwain at hunanladdiad. Ffôn:116 123

SilverCloud: Cymorth yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein i gefnogi gorbryder, iselder, pryderon am arian a mwy. Cyrchwch unrhyw le, unrhyw bryd drwy unrhyw ddyfais ar-lein.

Drws Blaen Powys: Os oes gennych bryderon ynghylch lles plentyn neu unigolyn ifanc yn eich cymuned, peidiwch ag oedi i rannu eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o'r tîm Drws Blaen.

CYMORTH: Os ydych yn bryderus am oedolyn yn eich cymuned ac yn meddwl y gallent elwa gydag ychydig o help neu gefnogaeth, rhannwch eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o'r tîm CYMORTH.

Helpa Fi i Stopio: Fe fyddech yn synnu faint o arian allech chi ei arbed petaech yn rhoi'r gorau i ysmygu, yn ogystal â dod yn fwy iach.

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.