Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: System dalu yn segur am gyfnod

Iechyd a Lles

A person comforting another person

C.A.L.LYn cynnig gwasanaeth cefnogaeth a gwrando cyfrinachol. Ffôn: 0800 132 737

Helpa Fi i Stopio: Byddwch yn synnu faint o arian y gallech ei arbed pe baech yn rhoi'r gorau i smygu, yn ogystal â dod yn iachach. 

Helpwch Ni i'ch Helpu Chi: Darganfod sawl ffordd o gael y gofal GIG cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.

Cymorth yn y CartrefCymorth Cartref: Mae Cymorth Cartref yn wasanaeth cymorth ac atal cynnar i ddinasyddion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol y gallai fod eu hangen ar unigolion yn eu bywyd o ddydd i ddydd i fyw gartref yn hyderus, yn iach, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Cymorth yn y Cartref Dwyrain Mesyfed:

  • Oriau agor: 9am - 5pm
  • Ffôn: 01544 260360
  • Cyfeiriad: Gofal Dwyrain Maesyfed Cyf, Yr Hen Ysgol, Stryd Scottleton, Llanandras, LD8 2BL

Cymorth yn y Cartref Rhaeadr a Llandrindod  a Llanidloes:

  • Oriau Agor: 8:30am - 5:30pm
  • Ffôn: 01597 810432
  • Cyfeiriad: Cyngor Sir Powys, Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy, Stryd y Gogledd, Rhaeadr Gwy, LD6 5BU

Byw Heb Ofn: Darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ffôn: 0808 80 10 800

Men's Sheds Cymru: Mae Men's Sheds Cymru yn hyrwyddo iechyd a llesiant dynion i helpu dynion i geisio byw ffordd o fyw sy'n fwy pleserus, iach, cadarnhaol ac actif.

Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian: Cyngor a chymorth clir, ymarferol i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl ac arian.

Mae Mind Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth a'i nod yw grymuso unrhyw un sy'n profi problemau iechyd meddwl. Ffôn0300 123 3393.

PAVO: Cyngor Gwirfoddol Sir Powys yw PAVO, sy'n cefnogi'r trydydd sector ym Mhowys. Mae'n cynnig gwasanaethau a gwybodaeth a all gefnogi unigolion i wella eu hiechyd a'u llesiant.

Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol PAVO: Gall Cysylltwyr Cymunedol PAVO eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i'ch cefnogi. Byddwn yn gweithio gyda chi i gael mynediad at y gwasanaeth, cefnogaeth a gwybodaeth leol gywir. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gymorth ar gyfer gwiriadau budd-daliadau, trafnidiaeth, cymorth prydau bwyd, mannau cynnes lleol, llesiant, tai, unigrwydd, gweithgareddau cymunedol, a llawer mwy

Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys: Mae Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys yn canolbwyntio ar wybodaeth iechyd meddwl leol. Rydym yn rhannu straeon a phrofiadau. Gallwn eich cysylltu â help lleol a chenedlaethol. Byddwn yn eich diweddaru ar Iechyd Meddwl drwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a blogiau.

Gwasanaeth Cyfeillio Powys: Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys PAVO yn cefnogi pobl dros 50 oed sy'n byw ym Mhowys i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, magu hyder, datblygu eu rhwydwaith cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned, neu gyda phaned cyfeillgar a sgwrsio yn eu cartref eu hunain.

PAVO - Help i sefydliadau: Gallwn helpu eich sefydliad drwy Dîm Datblygu PAVO. Rydym yn cynnig gwybodaeth am gyllid, cymorth digidol, hyb gwybodaeth, adeiladu capasiti ar gyfer y 3ydd sector, cyrsiau hyfforddi a llawer mwy.

CYMORTH Powys: Os ydych yn poeni am oedolyn yn eich cymuned ac yn meddwl y gallent elwa o rywfaint o help neu gefnogaeth, rhannwch eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o dîm CYMORTH.

Drws Ffrynt Powys: Os oes gennych bryderon ynghylch lles plentyn neu berson ifanc yn eich cymuned, mae croeso i chi rannu eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o'r tîm Drws Ffrynt.

Hyb Costau Byw GIG BIAP: Gwiriwch pa help y gallech ei gael i dalu am gostau'r GIG. Samariaid: Cefnogaeth emosiynol i'r rhai sy'n profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a allai arwain at hunanladdiad. Ffôn: 116 123

SilverCloud: Cefnogaeth therapi ymddygiadol gwybyddol ar-lein ar gyfer gorbryder, iselder ysbryd, pryderon ariannol a mwy. Mynediad unrhyw le, unrhyw bryd drwy unrhyw ddyfais ar-lein.

 

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bach o'r nifer fawr o wefannau, elusennau a sefydliadau sydd ar gael i gynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth.

Sicrhewch eich bod ond yn dilyn cyngor o ffynonellau credadwy y gellir ymddiried ynddynt. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu