Cwblhau datblygiad tai cymdeithasol Llanidloes
12 Hydref 2022
Mae Tîm Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys wedi datblygu 22 o gartrefi newydd ar safle'r hen farchnad da byw yn Llanidloes. Adeiladwyd y datblygiad, sydd wedi'i enwi yn Clos-Yr-Hen-Ysgol, gan y contractwyr J Harper and Sons (Leominster) Ltd.
Fel rhan o'r datblygiad, mae dau dŷ pedair ystafell wely, pedwar tŷ dwy ystafell wely, chwe thŷ tair ystafell wely, wyth byngalo dwy ystafell wely a dau fyngalo dormer tair/pedair ystafell wely wedi eu hadeiladu ar safle Heol y Gorn
Bydd y datblygiad gwerth £3.9m, a fydd yn eiddo i'r cyngor ac a fydd yn cael ei reoli ganddo, yn darparu llety y mae taer angen amdano a fydd ar gael ar rent fforddiadwy ac wedi'i ddyrannu i ymgeiswyr ar Gofrestr Tai Gyffredin Powys.
Defnyddiwyd Benthyciad Canol Tref Gwerth £2m a £1.37m o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a sicrhawyd gan Dimau Tai ac Adfywio Fforddiadwy y cyngor, i ariannu'r datblygiad hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Tecach: "Rwyf wrth fy modd bod gwaith wedi'i gwblhau a hoffwn ddiolch i'n partneriaid adeiladu, J Harper and Sons am ein helpu i gwblhau'r datblygiad tai cymdeithasol hwn yn Llanidloes.
"Ni allwn adeiladu'r Powys gryfach, decach, a gwyrddach yr ydym am ei chael heb yn gyntaf fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir. Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw trwy adeiladu tai cyngor o safon uchel.
"Nid yn unig y mae'r datblygiad yma'n ateb anghenion y gymuned leol ond mae'n gynllun pwysig fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai."
Dywedodd Mike Harvey, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp J. Harper and Sons Ltd "Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Powys i gynnig tai o ansawdd uchel y mae eu hangen i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai lleol.
"Mae'n glod i Aelodau'r Cyngor, y cyllidwyr, y tîm tai a'r gymuned bod modd darparu datblygiad mor bwysig yn ystod y cyfnod digynsail yma."