Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymeradwyo cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd

Image of person laying loft insultation

12 Hydref 2022

Image of person laying loft insultation
Mae cynllun newydd i geisio mynd i'r afael â thlodi tanwydd ym Mhowys wedi cael sêl bendith y Cabinet, yn ôl y cyngor sir.

Bydd Cyngor Sir Powys yn ail-lansio ECO4 Flex wedi i'r Cabinet gymeradwyo'r cynllun grant yn ei gyfarfod dydd Mawrth, 11 Hydref.

Bydd y cynllun yn gwella effeithlonrwydd ynni cartref trigolion Powys sy'n wynebu tlodi tanwydd.

Unwaith eto, Cymru Gynnes, sef cwmni buddiant cymunedol sy'n arbenigo mewn cyflwyno rhaglenni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, fydd yn cyflwyno'r cynllun newydd hwn ar ran y cyngor.

Bydd Cymru Gynnes yn rheoli'r cynllun yn llwyr, yn ymdrin ag ymholiadau, yn asesu a yw cleientiaid yn gymwys ac yn gweithio'n uniongyrchol â darparwyr ynni ac asiantau sy'n gorfod cyflwyno mesurau dan y cynllun.

Bydd y Datganiad o Fwriad a gafodd hefyd ei gymeradwyo gan y Cabinet, yn caniatau i aelwydydd Powys sydd mewn perygl o dlodi tanwydd, gael mynediad at gyllid dan Rwymedigaeth y Cwmni Ynni os ydyn nhw'n diwallu meini prawf y cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy wrth fy modd bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r cynllun hwn.

"Ystyrir i'r cynllun ECO4 Flex fod yn ffactor bwysig wrth helpu'r cyngor i leihau tlodi tanwydd ac ar yr un pryd, cyfrannu at dorri allyriadau carbon o gartrefi domestig sydd un ai'n berchen i, neu'n cael eu defnyddio gan rai sy'n methu talu am y gwaith gwella eu hunain."